Gwerthuso swyddi a pharu swyddi

Gwerthuso Swyddi

Er mwyn sicrhau fod gan y cyngor strwythur graddio dryloyw a theg, mae pob swydd sy’n ddarostyngedig i amodau Cyd Gyngor Cenedlaethol ar gyfer Llywodraeth Leol yn cael eu gwerthuso’n unol â chynllun gwerthuso swyddi Cyngor Taleithiol Llundain Fwyaf.

Mae’r cynllun gwerthuso swyddi wedi ei selio ar 11 ffactor, system sgorio a phwysoli sy’n rhydd o ragfarn a gwahaniaethu ar sail rhyw.

Cyflwynir swyddi newydd ar gyfer eu gwerthuso a gallai swydd hefyd gael ei chyflwyno er mwyn ei hail asesu os yw dyletswyddau neu lefel cyfrifoldebau’r swydd yn cynyddu neu’n newid yn sylweddol.

Os ydych yn anghytuno â chanlyniad gwerthusiad yna mae gennych hawl apelio.

Paru swyddi

Paru swyddi yw’r broses lle gall gweithiwr yn eu swydd gyfredol arddangos fod sgôp a swyddogaeth eu swydd gyfredol yn aros yn debyg iawn i rôl newydd a grëwyd yn ystod cyfnod o newid sefydliadol (fel ailstrwythuro gwasanaeth), gan gynnwys lefelau cyfrifoldeb.

Rhaid i ddeilydd y swydd gwrdd gofynion y Swydd-Ddisgrifiad a’r Manylion Am Yr Unigolyn newydd.

Dogfennau cysylltiedig