Eich taith

Cyfnod prawf

Mae'ch taith gyda Chyngor Sir Ddinbych wedi cychwyn. Dyma eglurhad o’r hyn a ddisgwylir gennych chi yn ystod eich cyfnod prawf o 6 mis. 

Sylwer na fydd cyfnod prawf o 6 mis ar gyfer staff athrawon a/neu staff nad ydynt yn CGC.

Mis 1: Llongyfarchiadau

Gan eich bod bellach yn cael eich cyflogi gyda Chyngor Sir Ddinbych bydd gennych 9 modiwl E-Ddysgu gorfodol i'w cwblhau, modiwl Ymsefydlu Corfforaethol fydd y cyntaf.

Fe ddylech chi wneud y modiwl hwn cyn dechrau, neu cyn gynted â phosib wedi hynny. Ar eich diwrnod cyntaf byddwch hefyd yn Cynefino â'r Adran gyda'ch rheolwr.

Fe gewch chi hefyd dargedau i weithio tuag atynt erbyn eich Cyfarfod Prawf Cam 1 (tri mis).

Mis 2: Cynefino

Yn yr ail fis byddwch yn cael eich traed tanoch ac yn dod yn gyfarwydd â'r safle, y systemau a'r Cyngor yn gyffredinol. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn, holwch eich rheolwr.

Bydd gofyn i chi gwblhau pedwar o fodiwlau e-ddysgu erbyn i chi gael eich Cyfarfod Prawf Cam 1 (tri mis). Sef:

  • Y Cod Ymddygiad
  • Trais yn erbyn menywod
  • Cydraddoldeb
  • Diogelu

Dylai'ch rheolwr roi amser i chi gwblhau'r rhain.

YBydd rhywun yn cysylltu â chi hefyd i drefnu i chi ddod i sesiwn lle mae staff yn cwrdd â'r Prif Weithredwr.

Mis 3: Hanner ffordd drwy'r cyfnod prawf

Bydd arnoch chi angen cwblhau pedwar modiwl e-ddysgu gorfodol erbyn y trydydd mis, sef:

  • Y Cod Ymddygiad
  • Trais yn erbyn menywod
  • Cydraddoldeb
  • Diogelu

Byddwch yn cael Cyfarfod Prawf Cam 1 (tri mis) gyda'ch rheolwr i drafod sut ydych chi'n dod ymlaen.

Byddwch hefyd yn cwrdd â phennaeth eich gwasanaeth.

Mis 4: Hyfforddiant Cynefino Parhaus

Erbyn y pedwerydd mis byddwch wedi magu dealltwriaeth dda o’ch adran, ac yn teimlo fel rhan o’r tîm.

Dylech fod wedi cwblhau pedwar o fodiwlau e-ddysgu ac wedi cael eich Cyfarfod Prawf Cam 1 (tri mis).

Bydd arnoch chi angen cwblhau pum modiwl e-ddysgu eraill erbyn eich Cyfarfod Prawf Cam 2 (pum mis). Sef:

  • Diogelu Data
  • Rhannu Pryderon
  • Ymwybyddiaeth o'r Iaith Gymraeg
  • Ymwybyddiaeth i Ofalwyr
  • Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Gwnewch yn siŵr bod eich rheolwr yn rhoi amser i chi gwblhau'r rhain.

Mis 5: Cyfarfod Cyfnod Prawf Cam 2 (5 mis)

Ar ôl pump mis byddwch yn cael cyfarfod arall i drafod eich cynnydd, a bydd arnoch chi angen bod wedi cwblhau pum modiwl e-ddysgu eraill, sef:

  • Diogelu Data

  • Rhannu Pryderon

  • Ymwybyddiaeth o'r Iaith Gymraeg

  • Ymwybyddiaeth i Ofalwyr

  • Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Dylech fod wedi cwrdd â'r Prif Weithredwr erbyn hyn. Os na fyddwch chi, cysylltwch ag Eleri Evans (Cynorthwyydd Personol y Prif Weithredwr.

Mis 6: Cyfarfod Cyfnod Prawf Cam 3 (6 mis)

Erbyn hyn bydd arnoch angen bod wedi cwblhau’r holl fodiwlau e-ddysgu gorfodol. Sef:

  • Ymsefydlu Corfforaethol
  • Y Cod Ymddygiad
  • Trais yn erbyn menywod
  • Cydraddoldeb
  • Diogelu
  • Diogelu Data
  • Rhannu Pryderon
  • Ymwybyddiaeth o'r Iaith Gymraeg
  • Ymwybyddiaeth i Ofalwyr
  • Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Byddwch hefyd wedi cwrdd â'ch rheolwr ar ôl tri a phum mis i drafod sut rydych chi'n dod ymlaen.

Bydd amcanion pellach rŵan yn cael eu gosod i chi weithio tuag atynt erbyn eich cyfarfod Un i Un cyntaf, sef eich carreg filltir nesaf.

Rheoli Perfformiad

Mae arnom ni eisiau i'n holl weithwyr lwyddo yn eu swyddi a datblygu eu gyrfaoedd efo ni.

Byddwch yn derbyn amcanion i weithio tuag atynt, a bydd eich rheolwr yn cwrdd â chi a'ch tîm yn rheolaidd drwy'r broses un i un.

Ym mhob cyfarfod un i un, byddwch yn trafod yr amcanion a osodwyd a pha mor dda ydych chi wedi cyflawni'r rhain. Yn y cyfarfod un i un, byddwch hefyd yn cael cyfle i siarad am unrhyw angen o ran datblygu a all godi yn ystod y flwyddyn, ynghyd â'ch uchelgais gyrfa.


Eich Taith

Ar ôl eich Cyfnod prawf

Dysgu a Datblygu

Unwaith rydych chi wedi cwblhau’ch cyfnod prawf yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn cefnogaeth barhaus o ran dysgu a datblygu.

E-Ddysgu

Amrywiaeth o fodiwlau rhyngweithiol, y gallwch chi eu cwblhau drwy’r porth E-ddysgu ar unrhyw adeg yn unrhyw le.

E-ddysgu

Hyfforddiant

Cyrsiau hyfforddi neu ddigwyddiadau y bydd gofyn i chi fynychu a fydd yn benodol i'ch rôl.

Datblygiad Gweithiwr

Cymwysterau

Datblygu eich gwybodaeth a'ch cymhwysedd drwy gymwysterau cenedlaethol, a fydd yn datblygu'ch dysg.

Cyrsiau a chymwysterau

Hyfforddi a Mentora

Cyfle i chi gael amser i feddwl a datblygu'ch hun yn bersonol ac yn broffesiynol mewn amgylchedd diogel a chefnogol, gydag ymarferwyr profiadol.

Hyfforddiant a mentora

Academi Wales

Ystod o adnoddau dysgu, cyrsiau a digwyddiadau a rhwydweithiau ar gyfer arweinwyr a rheolwyr.

Academi Wales (gwefan allanol)

Iaith Gymraeg

Rydym yn annog ein staff i ddysgu Cymraeg, ac mae gennym amrywiaeth o opsiynau ar gael, o gyrsiau Cymraeg ar wahanol lefelau, i grŵp cerdded Cymraeg lle gallwch ymarfer eich Cymraeg.

Dysgu Cymraeg

Gofyn a Gweithredu

Mae'r Fframwaith yn cynnwys chwe grŵp. Mae pob proffesiwn o fewn y Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei gynnwys yn un o'r grwpiau hyn ac amlinellir pa hyfforddiant sylfaenol sy'n ofynnol ar gyfer pob grŵp.

Llywodraeth Cymru: Y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig thrais rhywiol (gwefan allanol)

Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych

Mae Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych wedi'i ddylunio i wella profiad yr ymwelydd i bobl sy'n gweithio, yn byw neu'n astudio yn yr ardal.

Mae’r cynllun yn anelu i greu lefel wybodaeth a naws am le i sicrhau bod negeseuon cyson yn cael eu cyflwyno am yr ardal.

Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych (gwefan allanol)

Dogfennau cysylltiedig