Absenoldeb oherwydd salwch a thâl salwch

Cynllun Rheoli Presenoldeb

Fel un o weithwyr y llywodraeth leol byddwch yn gallu manteisio ar gynllun salwch sydd wedi ei ddylunio i ychwanegu at y Tâl Salwch Statudol a’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a ellir eu hawlio.

Bydd eich absenoldeb oherwydd salwch yn cael ei drin ar wahân i absenoldebau eraill oherwydd afiechyd diwydiannol, damwain neu ymosodiad yn sgil neu yn ystod eich cyflogaeth gyda’r Cyngor. Ni fydd cyfnodau o absenoldeb mewn perthynas ag un yn cael ei osod yn erbyn y llall at ddibenion cyfrifo’ch hawl dan y cynllun hwn.

Mae’r tabl isod yn manylu ar eich hawl i dâl salwch:

Tâl salwch
Hyd gwasanaethLwfans tâl salwch

Yn ystod blwyddyn gyntaf eich gwasanaeth  

Mis o gyflog llawn ac, ar ôl cwblhau 4 mis o wasanaeth, hanner cyflog am ddeufis

2 fis o hanner cyflog

Yn ystod ail flwyddyn eich gwasanaeth  

Deufis o gyflog llawn a 2 fis o hanner cyflog 

Yn ystod trydedd flwyddyn eich gwasanaeth  

4 mis o gyflog llawn a 4 mis o hanner cyflog 

Yn ystod pedwaredd a phumed flwyddyn eich gwasanaeth  

5 mis o gyflog llawn a 5 mis o hanner cyflog 

Ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth

6 mis o gyflog llawn a 6 mis o hanner cyflog 

Bydd cyfnod eich tâl salwch, a’r gyfradd a delir, yn cael ei gyfrifo ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb drwy ddidynnu nifer cronnol y cyfnodau o absenoldeb â thâl a gafwyd yn ystod y 12 mis cyn y diwrnod cyntaf o absenoldeb.

Yn ystod y cyfnod pan fyddwch chi’n derbyn cyflog llawn, os yw eich cyflog yn fwy na’r Tâl Salwch Statudol presennol neu’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth byddwch yn derbyn y gwahaniaeth rhwng cyfradd bresennol y Tâl Salwch Statudol neu’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a’ch cyflog sylfaenol.

Os nad ydych chi’n gymwys i dderbyn Tâl Salwch Statudol byddwch yn derbyn ffurflen SSP1 i'w llenwi er mwyn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gan y Ganolfan Byd Gwaith. Byddwch yn derbyn cyflog llawn llai unrhyw Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Yn ystod y cyfnodau pan fyddwch chi’n derbyn hanner cyflog, bydd eich tâl salwch yn cynnwys swm sy’n cyfateb i hanner eich enillion arferol yn ogystal â Thâl Salwch Statudol, cyn belled â nad yw’r cyfanswm yn fwy na’ch cyflog arferol. Os yw eich hawl i Dâl Salwch Statudol wedi dod i ben byddwch yn derbyn hanner eich cyflog a byddwch hefyd yn gallu hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Mae’ch tâl arferol yn cynnwys yr holl enillion sy’n daladwy i chi yn ystod cyfnod gweithio arferol, ond nid yw’n cynnwys taliadau a wneir o bryd i’w gilydd.

Os oes gennych chi fwy nag un swydd yn y Cyngor, ac os ydych chi’n absennol oherwydd salwch ar gyfer un swydd ond nid y llall, byddwch yn derbyn cyflog llawn ar gyfer y swydd yr ydych chi’n absennol ohoni.

Y taliadau salwch statudol a fydd yn cael eu hystyried ar gyfer cyfrifo eich tâl salwch galwedigaethol yw’r rheiny y mae gennych chi hawl iddyn nhw ar yr amod eich bod chi’n bodloni’r gofynion canlynol:-

  • Eich bod chi wedi rhoi gwybod i’ch rheolwr atebol am eich absenoldeb yn unol â’r canllawiau
  • Eich bod chi wedi datgelu unrhyw hawl sydd gennych chi i fudd-dal ac unrhyw newid yn eich amgylchiadau sy’n effeithio ar yr hawl honno

Os ydych chi wedi’ch atal rhag mynd i’r gwaith oherwydd y posibilrwydd o ddod i gysylltiad ag afiechyd heintus, byddwch yn derbyn eich cyflog arferol.

Ni fydd cyfnodau o absenoldeb mewn achosion yn cyfrif at y cynllun salwch. Fe ellir atal talu tâl salwch i chi os canfyddir eich bod chi’n camddefnyddio’r cynllun neu wedi methu darparu nodiadau ffitrwydd.

Byddwch yn cael gwybod yn ysgrifenedig pam bod eich tâl salwch yn cael ei atal a bydd modd i chi apelio.

Ni fyddwch yn gallu hawlio tâl salwch dan y cynllun oni bai eich bid chi wedi:-

  • Rhoi gwybod i’r person perthnasol o fewn y terfynau amser cytunedig
  • Gwneud hysbysiadau pellach yn ôl yr angen
  • Cyflwyno nodyn ffitrwydd gan feddyg o fewn 8 diwrnod cyntaf yr absenoldeb
  • Cyflwyno nodiadau ffitrwydd eraill gan feddyg yn ôl yr angen

Os ydych chi’n absennol am 7 niwrnod neu fwy bydd yn rhaid i chi ddarparu datganiad gan feddyg (nodyn ffitrwydd).

Mae’n bosibl hefyd y bydd yn rhaid i chi gael archwiliad meddygol gan ymarferydd meddygol wedi ei benodi gan y Cyngor. Bydd y Cyngor yn cwrdd ag unrhyw gost sydd ynghlwm wrth hyn.

Os codir tâl arnoch chi am ddatganiad gan feddyg byddwch yn derbyn ad-daliad ar ôl cyflwyno derbynneb.

Os ydych chi’n sâl pan fyddwch chi ar wyliau blynyddol byddwch yn derbyn tâl salwch o ddyddiad datganiad y meddyg.