Rhoddir cyfnod o absenoldeb tosturiol i weithwyr yn dilyn colli perthynas agos. Diffinnir perthynas agos fel gŵr, gwraig, partner, rhiant, mam neu dad yng nghyfraith (gan gynnwys rhieni partner), gwarcheidwad, mab neu ferch, ŵyr neu wyres, nain neu daid, brawd neu chwaer, modryb neu ewythr.
Rhoddir tridiau o absenoldeb tosturiol i weithwyr sydd wedi colli perthynas agos ac yn gyfrifol am drefniadau’r angladd.
Mae hyn yn cynnwys amser i ffwrdd i fynd i'r angladd.
Os nad ydych chi’n ymwneud yn uniongyrchol â’r trefniadau, byddwch yn cael un diwrnod i ffwrdd i fynd i'r angladd ac amser i ffwrdd i deithio, os yn briodol.