Absenoldeb Di-dâl

Seibiant gyrfa, caniatâd i fod yn absennol neu gyfnod sabothol

Mae seibiant gyrfa yn gyfnod estynedig o absenoldeb di-dâl o’r gweithle. Fel rheol fe gymerir seibiannau gyrfa i gyrraedd nod personol fel teithio, gwirfoddoli neu ddatblygiad personol. Gellir hefyd eu defnyddio i gymryd amser i ffwrdd i ofalu am ddibynnydd.

Gall gweithwyr cymwys wneud cais am seibiant gyrfa o 3 i 12 mis. Mae’r meini prawf a’r canllawiau ar gyfer gwneud cais ar gael yn y polisi amser o’r gwaith.

Absenoldeb Rhiant

Mae rheolau absenoldeb rhiant yn nodi bod absenoldeb rhiant yn berthnasol i blant sydd wedi eu geni ar ôl 15 Rhagfyr 1999, sef y dyddiad y daeth y rheolau i rym.

Nid oes yn rhaid talu gweithiwr am absenoldeb rhiant.

Dyletswyddau Cyhoeddus

Os ydych chi’n ymgymryd â dyletswyddau rheithgor, yn gwasanaethu ar gorff cyhoeddus neu’n ymgymryd â dyletswyddau cyhoeddus, byddwch yn gallu derbyn caniatâd i fod yn absennol gyda thâl. Os ydych chi’n gallu hawlio lwfans colli enillion yna fe ddylech chi lenwi’r ffurflen briodol. Pan fyddwch chi’n derbyn y taliad yn uniongyrchol bydd didyniad yn cael ei wneud o’ch cyflog. Nid yw hyn yn berthnasol i weithwyr sy’n absennol er mwyn mynd i’r llys fel tyst ar gyfer achos sy’n amherthnasol i Gyngor Sir Ddinbych. Mewn achosion o’r fath dylid cymryd gwyliau blynyddol, gweithio oriau hyblyg neu gymryd absenoldeb di-dâl.

Dogfennau cysylltiedig