Undeb Credyd Cambrian
Mae Undeb Credyd Cambrian (gwefan allanol) yn cynnig amrywiaeth o gyfrifon cynilo a benthyciadau personol i bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru a Phowys.
Gwobrau Uniongyrchol Cyngor Sir Ddinbych
Mae'r rhaglen Gwobrau Uniongyrchol Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi mynediad i chi at yr holl arbedion a buddiannau sy’n dod o fod yn weithiwr gyda Chyngor Sir Ddinbych.
Mae amrywiaeth wych o Arbedion Ffordd o Fyw ar gael ar-lein neu ar y stryd fawr, yn genedlaethol ac yn eich ardal leol ar gyfer bwyd, gwyliau, bwyta allan, DIY, offer trydanol, yswiriant, moduro a mwy. Mae yna filoedd o gynigion a buddion ar gael ac fe allwch chi arbed cannoedd o bunnoedd wrth siopa. Gallwch arbed drwy ddefnyddio taliad arian-yn-ôl, gostyngiadau ar-lein, siopa ar y ffôn a’ch Cerdyn Vectis ar gyfer gostyngiadau mewn siopau.
Gallwch hefyd arbed ar eich costau gofal plant trwy’r cynllun Aberthu Cyflog sydd ar gael i chi. Mae Aberthu Cyflog yn ffordd wych i chi arbed trwy hepgor cyfran o’ch cyflog (fydd wedi’i eithrio rhag Yswiriant Cenedlaethol a Threth) sy’n golygu eich bod wedyn yn cael buddion ardderchog.
Yn ogystal â’r Buddion Ffordd o Fyw uchod, rydym hefyd yn cynnwys buddion eraill sy’n cynnwys:
- cynllun pensiwn cystadleuol
- lwfans gwyliau blynyddol hael, a'r cyfle i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol (ac eithrio Athrawon a gweithwyr yn ystod y tymor yn unig)
- aelodaeth Hamdden Sir Ddinbych Gorfforaethol
- cynllun Beicio i’r Gwaith
- cynlluniau yswiriant meddygol
- cynllun aberthu cyflog i gael car, a chynllun prydlesu car. Ceir rhagor o wybodaeth am y cynllun prydlesu car trwy ffonio’r Gwasanaethau Fflyd ar 01824 708460.
- prynu Microsoft Office ar gyfer eich cyfrifiadur gartref am bris gostyngol
- arbed arian ar Fysiau Arriva
- Undeb Credyd Cambrian
- rhoi wrth i chi ennill
Mae Cardiau Vectis Digidol bellach ar gael drwy eich ffôn clyfar
Er mwyn parhau gweld a defnyddio yr arbedion gwych gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru ar www.dccrewardsdirect.co.uk (gwefan allanol) ac yna bydd angen i chi lawrlwytho'r cerdyn Vectis.
Sut i ddefnyddio'ch Vectis Card
- lawrlwythwch yr ap 'Vectis Card' am ddim o Apple Store neu Google Play
- agorwch yr ap a dewisiwch ‘My Vectis Card’ yn y gornel waelod dde
- teipiwch eich cyfeiriad e-bost a’r Rhif Adnabod y Cynllun (ID) (6200)
Arbed wrth fynd!
Os nad oes gennych fynediad i ffôn clyfar cysylltwch â Sophie Vaughan ar 01824 712527.
Aelodaeth Chwaraeon a Hamdden CSSC – Cost o £4.25 y mis drwy ddebyd uniongyrchol
Ar gael i bob gweithiwr yn cynnwys staff dan gontract a staff dros dro. Mae’r buddion yn cynnwys:
- hyrwyddo ffyrdd o fyw cyflawn drwy roi cyfleoedd chwaraeon a hamdden i aelodau
- tocynnau sinema ar ddisgownt (40-50% i ffwrdd yn Cineworld, Odeon, Vue and Showcase, Reel);
- mynediad am ddim i dros 300 o safleoedd Treftadaeth Gymreig a Seisnig i’r aelod a’u teulu;
- tocynnau gwell na hanner pris i Atyniadau Merlin (ar gael o’r gwanwyn i’r hydref)
- arbedion ar siopau stryd fawr yn cynnwys diwrnodau allan a gwyliau
- 50% o ddisgownt neu 2 am bris 1 mewn dros 7000 o fwytai
- cynllun ad-dalu gyda ffioedd mynediad i ddigwyddiadau 10km, hanner marathon, marathon a beicio;
- cefnogaeth ariannol ar gyfer tystysgrifau dyfarnu, hyfforddi a bod yn reffarî
ac er mwyn cofrestru ar-lein ar gyfer aelodaeth Chwaraeon a Hamdden CSSC, ewch i wefan CSSC (gwefan allanol) a sicrhewch eich bod yn dewis Alan Lewis – Rheolwr Cyfrif – y Gogledd Orllewin, yn y gwymplen ‘sut gwnaethoch glywed amdanom’. Bydd hyn yn rhoi'r cyfle i chi ymgeisio yn eu raffl fisol £50 yn awtomatig.
Cynllun Aberthu Cyflog Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (SSSCAVC)
Ydych chi eisiau gwella eich buddion pensiwn ar gyfer pan fyddwch yn ymddeol?
Fe allwch nawr ymuno â chynllun Aberthu Cyflog Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol newydd Prudential a bydd Cyngor Sir Ddinbych hefyd yn cyfrannu i’ch cronfa Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol drwy drefniant Aberthu Cyflog. Mae hyn yn golygu y gallwch arbed cyfraniadau Treth ac Yswiriant Gwladol ar eich taliadau Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol. Nid yw fyth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am y math o fywyd yr ydych ei eisiau pan fyddwch chi'n rhoi'r gorau i weithio.
Yn ychwanegol at fuddion eich prif Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gallai cynllun Aberthu Cyflog Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol eich helpu i wneud hyn drwy ddarparu buddion ymddeol ychwanegol.
Cynllun Aberthu Cyflog Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (SSSCAVC) - pecyn cyflogwr (MS Word, 625KB)
Cysylltwch â’r Adran Gyflogau os gwelwch yn dda ar 01824 706033 am fanylion pellach.
Cysylltu â ni