Sir Ddinbych - Y cyfan ynglŷn â'r Cyngor

Cyfarfod tîm

Fel cyflogwr, rydym ni'n canolbwyntio ar gyfathrebu, cydraddoldeb a pholisïau sy'n gyfeillgar i bobl ac rydym ni'n chwilio am bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth a'n gwerthoedd. Os ydych chi'n dymuno gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ac yn chwilio am gyflogwr gwerth chweil sy'n eich gwerthfawrogi, yna dyma'r lle i chi.

Mae staff y Cyngor yn gweithio tuag at gyfres o werthoedd sy'n sail i'n holl weithgarwch:

Balchder

Ein nod ydi creu teimlad o falchder o weithio i'n sefydliad. Dylem ymfalchïo yn y gwaith a wnawn a'r hyn rydym ni'n ei gyflawni fel sefydliad.

Undod

Mae pob un ohonom yn gweithio i'r un sefydliad. Dylid adlewyrchu hyn yn y modd yr ydym yn ymddwyn ac yn gwasanaethu ein cymunedau. Fel y dywed ein harwyddair "Unwn i wneud da", rydym ni'n gweithio'n agos, yn fodlon cydweithio a chefnogi cydweithwyr ar draws y sefydliad, pa bynnag wasanaeth neu dîm y maent yn gweithio ynddo.

Parch

Ein nod ydi trin pawb yn deg ac yn gyfartal, a deall bod yna farn a chredoau sy’n wahanol i’n rhai ni. Rydym ni’n ceisio cynnwys a gwrando ar ein cymunedau, gan ystyried eu barn ac ymateb yn briodol. 

Gonestrwydd

Rydym yn anelu at reoli ein hunain i wneud y mwyaf o’n perfformiad, cyrraedd safonau ymddygiad uchel a chyflwyno delwedd bositif o Sir Ddinbych. Rydym ni'n ceisio bod yn realistig gyda'n cydweithwyr a'n dinasyddion o ran ein cyflawniadau a'n heriau, gan ddarparu gwybodaeth agored a gonest.