Gyrfaoedd mewn gwaith cymdeithasol a gofal: Cwestiynau Cyffredin    

FAQs

Pa fath o rolau sydd ar gael mewn gofal cymdeithasol?

Mae gennym swyddi gofal a chymorth ar gael yn ein cynlluniau gofal ychwanegol, ein cartrefi preswyl a'n gwasanaethau yn y gymuned. Mae gennym hefyd swyddi domestig ac arlwyo yn ein lleoliadau preswyl.

Mae gennym amrywiaeth o gontractau ar gael. Os ydych chi eisiau gweithio'n llawn amser, yn rhan amser neu os hoffech chi wneud gwaith llanw, byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn sicrhau bod eich anghenion chi'n cyd-fynd â'n rhai ni.

Faint o gefnogaeth fydd ar gael os byddaf yn ymuno a'r Cyngor?

Byddwch yn cael cyfnod sefydlu, hyfforddiant a sesiynau goruchwylio 1-1 rheolaidd gyda'ch goruchwyliwr.

Pa fath o gyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael?

Mae gan y Cyngor raglen hyfforddi gynhwysfawr - cyrsiau, e-ddysgu, hyfforddiant 1-1. Mae cyfleoedd i chi gael cymwysterau eraill sy'n berthnasol i'ch swydd megis cymwysterau diploma y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau.

Pa mor hyblyg yw'r oriau gwaith?

Rydyn ni eisiau i bobl weithio amrywiaeth o oriau gwahanol, er enghraifft byddai gennym ni shifftiau ar gyfer pobl sy'n gallu gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau yn unig, neu dim ond yn y boreau. Byddwn yn trafod eich argaeledd a'r oriau y gallwch eu gweithio i gynnal eich cydbwysedd bywyd a gwaith pan fyddwn yn eich cyfweld. O'r drafodaeth hon, byddwn yn cytuno pa oriau gwaith sy'n addas i chi a'r gwasanaeth.

A fyddai'n cael mynediad at gronfa bensiwn?

Rydym yn cynnig cynllun pensiwn cystadleuol trwy Gronfa Bensiwn Clwyd. Mae pob gweithiwr sy'n gweithio am gyfnod o fwy na 3 mis yn cael ei dderbyn yn awtomatig i'r cynllun pensiwn hwn.

Gellir canfod rhagor o wybodaeth am y cynllun ar wefan Cronfa Bensiynau Clwyd (gwefan allanol) neu drwy ffonio 01352 702950.

A fydd angen i mi dalu i gael fy nghofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru?

Os ydych yn cael eich cyflogi gan y Cyngor byddwch yn derbyn ad-daliad ar gyfer ffioedd cofrestru ar ôl cyflwyno prawf o dalu.

A fydd angen cyfweliad arnaf? / Beth yw’r broses gyfweld?

Gall y broses cyfweld amrywio yn dibynnu ar rôl y swydd. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gweithdai recriwtio rheolaidd lle mae ymgeiswyr yn cael gwybodaeth am weithio o fewn gofal cymdeithasol ac yn dilyn hynny, mae nifer o weithgareddau grŵp yn ogystal â chyfweliadau unigol. Nod y Gweithdy yw i chi gael gwybod beth allwn ei gynnig i chi yn ogystal â chyfle i ni gwrdd â chi a gweld pa sgiliau y gallwch eu cynnig i ni. Os hoffech archebu lle ar weithdy cwblhewch y ffurflen ymholiad yma a byddwn mewn cysylltiad.

Beth os ydw i angen cymorth i gwblhau ffurflen gais?

Gall tîm Gweithio yn Sir Ddinbych eich cefnogi i gwblhau eich ffurflen gais. Gallant hefyd eich cefnogi gyda sgiliau cyfweld yn ogystal â rhoi cyngor ac arweiniad ar gael mynediad at gyflogaeth. Gallwch gysylltu â Sir Ddinbych yn Gweithio ar 01745 331438 / 07342070635 neu lenwi eu ffurflen gyswllt ar-lein yma.

Pa fath o sgiliau neu gymwysterau sydd ei angen er mwyn i mi geisio am swydd?

Roedd rhai o'n rolau yn gofyn am sgiliau a chymwysterau sydd i'w gweld yn y disgrifiad swydd a manyleb y person.

A fydda angen I mi allu gyrru ar gyfer y swydd?

Ni fydd angen i chi yrru ym mhob rôl, fel rolau mewn gofal preswyl neu ychwanegol ond bydd angen i chi gael y modd i gyrraedd y gwaith.

Rolau sy'n gweithio yn y gymuned, bydd gofyn i chi yrru i'ch galwadau.

A fydd angen car arna i?

Bydd angen car arnoch os ydych yn gweithio fel gofal a chymorth yn gweithio yn y gymuned gan y byddwch yn darparu cymorth yng nghartref y dinesydd ei hun.

Mae'r Cyngor yn darparu ceir cronfa mewn rhai ardaloedd yn Sir Ddinbych.

Rydym yn talu lwfans milltiroedd i bobl sy'n defnyddio'u ceir eu hunain.

A fyddai'n derbyn yr offer a'r wisg angenrheidiol?

Bydd, byddwch yn cael gwisgoedd, ffôn symudol ac unrhyw offer arall sydd ei angen ar gyfer eich rôl.

Pa mor aml ydw i'n cael fy nhalu?

Mae ein staff yn cael eu talu ar y 18fed o bob mis. Telir staff ar gontract am y mis cyfan ar y dyddiad hwn a thelir staff cyflenwi am oriau a weithiwyd yn y mis blaenorol.

Pwy allaf gysylltu â nhw am wybodaeth bellach?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yrfa o fewn gofal cymdeithasol neu os hoffech drafod pa ddewisiadau gyrfa y gallwn eu cynnig, gallwch gysylltu â ni drwy lenwi’r ffurflen gyswllt ar-lein a bydd rhywun yn cysylltu neu gallwch anfon ebost at socialcarejobs@denbighshire.gov.uk neu ffonio 07717225541.



Cysylltwch â ni

Os oes yna unrhyw beth nad ydym wedi sôn amdano ac yr hoffech chi ragor o wybodaeth amdano, neu os ydych chi wedi penderfynu mai gofal cymdeithasol yw'r yrfa i chi ac yr hoffech chi fynegi eich diddordeb i fynychu gweithdy, cysylltwch â ni drwy gwblhau ein ffurflen ymholiadau.

Swyddi ym maes Gofal Cymdeithasol: Ffurflen ymholiadau