Cylchred Rheoli Perfformiad a Chyflogau (ysgolion)

Bydd y pennaeth yn penderfynu ar amseriad y gylchred werthfawrogi ar gyfer pob athro sydd yn yr ysgol. Dylid amlinellu'r amseriad ym Mholisi Rheoli Perfformiad yr ysgol a dylai hefyd gysylltu â chylchred gynllunio’r ysgol, gan gynnwys y Cynllun Gwella Ysgol a gall hefyd ystyried y gylchred gyflogau flynyddol.

Enghreifftiau o gylchred Rheoli Perfformiad ysgol:

Rheoli Perfformiad

Ar gyfer y cam hwn yn y gylchred, dylai ysgolion adolygu eu gwerthuso/rheoli perfformiad a'u gweithdrefnau. Mae’r rhain yn enghreifftiau o gwestiynau y dylid mynd i’r afael â nhw:

  • Beth yw’r strwythur rheoli atebol
    - a yw hyn yn addas i roi gwybodaeth er mwyn talu cyflogau?
  • A yw athrawon a rheolwyr atebol yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt?
  • Pa systemau sicrhau ansawdd sydd yno?
  • Sut mae targedau’n cael eu gosod a sut y cytunir arnynt?
  • Pa dystiolaeth sydd wedi’i chasglu?
  • Pa adborth a roddir?
  • A yw’r broses hon yn helpu i godi safonau?

Efallai y bydd angen adolygu polisi Rheoli Perfformiad yr ysgol i adlewyrchu’r newidiadau yn eu polisi cyflogau nhw yn flynyddol.

Amcanion

Mae angen adolygu amcanion a thargedau er mwyn gweld a oes modd eu defnyddio i fwydo gwybodaeth i’r broses werthuso. Mae’n rhaid i amcanion:

  • fod yn glir ac yn hawdd eu deall
  • fod yn gysylltiedig â'r swydd-ddisgrifiad cyfredol
  • ni ddylid cyfeirio at weithgareddau allgyrsiol
  • dylai'r polisi cyflogau egluro sut y bydd cyflog yn cael ei benderfynu pan fo athrawon yn absennol am unrhyw reswm, er enghraifft mamolaeth neu gyfnod o salwch tymor hir.
  • gellir defnyddio amcanion a rennir
  • mae’n rhaid i amserlen pob amcan fod yn realistig

Cylideb

Mae angen adolygu cyllideb yr ysgol er mwyn ystyried datblygiad cyflog unrhyw athro.

Bydd angen i’r Llywodraethwyr ystyried goblygiadau cyllidebol y penderfyniadau cyflog ac ystyried eu cynlluniau gwario.

Dogfennau cysylltiedig