Safonau Proffesiynol (ysgolion)

Mae’r safonau proffesiynol yn ddatganiadau o nodweddion a gwerthoedd, gwybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol ymarferwyr addysg, yn ogystal â’r sgiliau amrywiol.

Mae’r safonau hefyd yn gwneud disgwyliadau pob cam o yrfa ymarferwyr yn eglur, ac yn eu helpu i weld sut y mae angen iddyn nhw ddatblygu’n broffesiynol er mwyn datblygu eu gyrfa.

Safonau proffesiynol (gwefan allanol)

Pam ein bod angen safonau proffesiynol?

Diben y safonau proffesiynol, ar y cyfan, yw codi safonau addysgu a gwella canlyniadau dysgwyr ar hyd a lled Cymru. Mae’r safonau proffesiynol yn cysylltu’r ddealltwriaeth, gwybodaeth a gwerthoedd y mae'n rhaid i'n hathrawon, arweinwyr a Chynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch eu dangos. Maent yn darparu fframwaith i alluogi ymarferwyr i weld eu hamcanion rheoli perfformiad ac i ddewis y gweithgareddau datblygu proffesiynol mwyaf addas.

Ar gyfer pwy y mae'r safonau?

  • Safonau Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch
  • Safonau Athrawon wrth eu Gwaith yn dod yn lle’r Safon Diwedd Sefydlu
  • Safonau Arweinyddiaeth yn dod yn lle'r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Penaethiaid yng Nghymru.