Sir Ddinbych yn Gweithio: Llwybr Gofal Plant
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig llwybr hyfforddi gofal plant 12 wythnos wedi'i ariannu'n llawn, wedi’i gynllunio i'ch helpu i gynyddu hyder, datblygu sgiliau newydd, a chael gwaith â thâl o'r diwrnod cyntaf.
Cymerwch y cam cyntaf heddiw a gallech chi fanteisio ar:
- Waith â thâl tra byddwch yn hyfforddi
- Hyfforddiant llawn – does dim angen profiad
- Cefnogaeth drwy eich taith
- Cyfleoedd gwaith go iawn ar ôl gorffen

Sesiynau cyflwyno
Rydym yn cynnal dau sesiwn cyflwyniad lle gallwch ddysgu am Lwybr Cyflogaeth Gofal Plant, cwrdd â'r tîm, deall y gefnogaeth sydd ar gael, ac archwilio a yw'r lleoliad â thâl yn iawn i chi.
Pwy all fynychu?
Mae'r sesiynau cyflwyno am ddim hyn ar gyfer pobl sydd:
- eisiau archwilio gofal plant mewn amgylchedd hamddenol a chefnogol
- Yn chwilfrydig ynglŷn â meithrin hyder, sgiliau, neu ddechrau o'r newydd
- Â diddordeb mewn helpu plant i ddysgu a thyfu
- Yn ansicr beth yw eu cam nesaf ac eisiau dysgu mwy cyn ymrwymo
Nid oes angen unrhyw gymwysterau na phrofiad arnoch, dim ond meddwl agored a pharodrwydd i archwilio a allai gofal plant fod yn addas i chi.
Pryd a lle fydd y sesiynau cyflwyno’n cael eu cynnal?
Mae’r sesiynau cyflwyno Llwybr Gofal Plant yn digwydd yng Nghanolfan y Dderwen (y Rhyl) ar ddydd Iau 17 Medi 2026:
- Sesiwn y bore o 10am tan 12 hanner dydd
- Sesiwn y prynhawn o 2pm tan 4pm
Dim ond un sesiwn y mae angen i chi ei fynychu.
Gwybodaeth am y lleoliad
Gwybodaeth am Ganolfan y Dderwen.
Parcio
Meysydd parcio agosaf y Cyngor yw:
Sut i gymryd rhan
Mae’r sesiynau cyflwyno Llwybr Gofal Plant am ddim, ond bydd angen i chi ein ffonio ar 01745 331438 i gadw lle os hoffech fod yn bresennol.
Mae lleoedd ar gyfer pob sesiwn yn gyfyngedig.
Cysylltu â ni
- Cysylltu â ni ar-lein - Cysylltwch â ni ar-lein a gofynnwch am alwad yn ôl os hoffech i ni eich ffonio chi
- Ymweld â ni - Ymwelwch â ni wyneb yn wyneb yn Gorsaf VIBE
- Ffoniwch ni - 01745 331438
Dilynwch ni