Premiwm treth y cyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu deddfwriaeth sy’n rhoi pŵer i Awdurdodau Lleol yng Nghymru godi premiwm treth y gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi. 

Rhoddwyd pwerau i’r Cynghorau yng Nghymru i godi hyd at 300% ychwanegol o Dreth y Cyngor ar berchnogion cartrefi sydd â chartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi.

Diben premiwm treth y cyngor yw:

  • annog perchnogion tai i beidio â gadael eu heiddo yn wag
  • cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy
  • bod o fudd i’r gymuned a’r economi leol
Newidiadau 2017

Yn 2017, fe gytunodd aelodau etholedig o Gyngor Sir Ddinbych yng Nghyfarfod Llawn y Cyngor ar ddydd Mawrth, 5 Rhagfyr 2017 y byddai premiwm o 50% yn cael ei godi ar:

  • eiddo Gwag Hirdymor o fis Ebrill 2018
  • ail Gartrefi o fis Ebrill 2019

Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 5 Medi 2023 cytunodd aelodau etholedig o Gyngor Sir Ddinbych i gynyddu premiwm Treth y Cyngor ar Eiddo Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi fel a ganlyn:

  • O 1 Ebrill 2024 ymlaen:
    • codir 100% dros y ffi safonol ar bob cartref gwag hirdymor ac ail gartrefi yn Sir Ddinbych
    • codir 50% yn ychwanegol dros y cynnydd arfaethedig ar yr holl gartrefi gwag hirdymor sydd wedi bod yn wag am gyfnod parhaus o 5 mlynedd neu fwy. Mae hyn yn golygu y bydd y ffi ar gyfer eiddo fel hyn yn 150% dros y ffi safonol o 1 Ebrill 2024, a 200% dros y ffi safonol o 1 Ebrill 2025.
  • O 1 Ebrill 2025 codir 150% dros y ffi safonol ar bob cartref gwag hirdymor ac ail gartref yn Sir Ddinbych
  • Mae unrhyw gyllid ychwanegol sy’n cael ei gynhyrchu’n cael ei ddyrannu ar gyfer cymunedau lleol, cyfleusterau ac i fynd i’r afael â digartrefedd.

Eiddo Gwag Hirdymor

Mae eiddo gwag hirdymor yn eiddo domestig wedi’i ddylunio ar gyfer byw ynddo (hunangynhwysol) sy’n parhau’n wag a heb ei ddodrefnu i raddau helaeth am gyfnod parhaus o 12 mis neu fwy.

Cyfanswm o eiddo gwag hirdymor yn Sir Ddinbych
DyddiadCyfanswm o eiddo gwag hirdymor yn Sir Ddinbych
1 Ebrill 2023  642

Ail Gartrefi

Ail gartref yw eiddo domestig wedi’i ddylunio ar gyfer byw ynddo (hunangynhwysol), wedi’i ddodrefnu i raddau helaeth ac nad yw’n unig neu brif breswylfa unigolyn.

Cyfanswm o ail gartrefi yn Sir Ddinbych
DyddiadCyfanswm o ail gartrefi
1 Ebrill 2023  393

Refeniw wedi’i godi o Bremiwm Treth y Cyngor

Byddwn yn defnyddio refeniw o Bremiwm Treth y Cyngor i gefnogi’r gwaith o atal digartrefedd, trechu tlodi, a phrosiectau i sicrhau fod ein cymunedau yn gynaliadwy.

Nid oes raid neilltuo symiau sy’n cael eu codi o’r Premiwm Treth y Cyngor ond mae’r refeniw ychwanegol ar gael ac yn cael ei ddefnyddio i gefnogi diben y polisi i:

  • atal digartrefedd
  • cynyddu cartrefi fforddiadwy ac ail-ddefnyddio eiddo sydd wedi bod yn wag yn hirdymor
  • gweithio i sicrhau fod cymunedau’n gynaliadwy

Dydi gwario ddim yn gyfyngedig i dai, ond i dimau sydd, er enghraifft, yn cefnogi ymyrraeth gynnar, a chefnogi teuluoedd diamddiffyn.

Refeniw wedi’i godi o Bremiwm Treth y Cyngor
Blwyddyn AriannolRefeniw o eiddo gwag hirdymorRefeniw o ail gartrefi
2022/2023 £455,982 £434,162

Eithriadau

Ni fyddai premiwm treth y cyngor yn cael ei godi o dan yr eithriadau canlynol:

  • Dosbarth 1: eiddo sy’n cael ei farchnata i’w werthu - mae cyfyngiad amser o 12 mis ar yr eithriad hwn.
  • Dosbarth 2: eiddo sy’n cael ei farchnata i’w osod - mae cyfyngiad amser o 12 mis ar yr eithriad hwn.
  • Dosbarth 3: anecs sy'n rhan o, neu sy’n cael ei drin fel rhan o’r prif eiddo
  • Dosbarth 4: eiddo a fyddai'n unig gartref neu'n brif gartref i rywun pe na baent yn preswylio yn llety’r lluoedd arfog
  • Dosbarth 5 (yn berthnasol i ail gartrefi yn unig): lleiniau carafanau ac angorfeydd cychod a feddiannir
  • Dosbarth 6 (yn berthnasol i ail gartrefi yn unig): eiddo ble mae amod cynllunio naill ai:
    • yn cyfyngu’r annedd rhag cael ei ddefnyddio am gyfnod parhaus o hyd at o leiaf 28 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis
    • yn nodi y gellir defnyddio’r annedd fel llety gwyliau yn unig
    • yn atal ei ddefnyddio’n brif neu unig breswylfa unigolyn
  • Dosbarth 7 (yn berthnasol i ail gartrefi yn unig): anheddau sy’n gysylltiedig â swyddi

Ymgeisio am eithriad

Os ydych yn meddwl bod eich eiddo yn disgyn o dan unrhyw un o’r dosbarthiadau eithriadau, cysylltwch â ni. Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth, megis un o’r canlynol

  • cytundeb neu gontract gwerthwr tai a’r ddolen uniongyrchol i wefan yr asiant yn dangos bod eich eiddo yn cael ei hysbysebu i’w werthu neu ei osod
  • slip cyflog yn dangos Cyfraniad yn Lle Treth y Cyngor ar gyfer personél y Lluoedd Arfog
  • cyfeirnod cynllunio ar gyfer anecsau neu eiddo gyda chyfyngiadau cynllunio
  • contract cyflogaeth ar gyfer anheddau cysylltiedig â swydd

Eithriad Dosbarth C

Mae eithriad Dosbarth C treth y cyngor ar gael am 6 mis ar eiddo sydd wedi’i ddodrefnu’n sylweddol ac sy’n wag . 

Gweler gwybodaeth am ostyngiadau ac eithriadau.

Mwy o wybodaeth

Os hoffech ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd llawn amser, efallai y bydd gennych hawl i gael help gan y canlynol: