Trwydded Cerbyd Hacni (Tacsi)
Mae angen trwydded cerbyd hacni, a elwir yn aml yn drwydded tacsi, ar gyfer unrhyw gerbyd sydd â hyd at 8 sedd i deithwyr sy’n cael ei hurio gyda gyrrwr tacsi ac y gellir:
- talu am ei hurio
- ei fflagio
- ei logi mewn safle tacsi
Mae’n rhaid i’r tacsi arddangos:
- arwydd ar y to
- plât melyn ar flaen y cerbyd a cherdyn mewnol llai, sy’n rhoi manylion y cerbyd a rhif y trwydded tacsi.
- plât melyn ar gefn y cerbyd sy’n dangos dyddiad terfyn y drwydded
Prisiau a thaliadau tacsis
Dewiswch un o’r canlynol i weld prisiau a thaliadau tacsis o 1 Gorffennaf 2022:
Tariff 1: rhwng 6am a hanner nos
Mae'r prisiau a'r taliadau am dariff 1, sy'n cael eu codi rhwng 6am a hanner nos yw:
- Prisiau cychwynnol (ar gyfer y filltir gyntaf): £3.50
- Yna 25c am bob un degfed filltir neu ran o hynny
- Amser aros: 30 ceiniog y funud
Tariff 2: rhwng hanner nos a 6am
Y prisiau a'r taliadau am dariff 2, sy'n cael eu codi rhwng hanner nos a 6am yw:
- Prisiau cychwynnol (ar gyfer y filltir gyntaf): £5.25
- Yna 37.5c am bob un degfed filltir neu ran o hynny
- Amser aros: 40 ceiniog y funud
Taliadau eraill
Gwyliau cyhoeddus a gwyliau'r banc, Sul y Pasg, Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan yn ôl tariff 2 drwy’r dydd.
Noswyl Nadolig a Nos Galan yn ôl Tariff 2 o 6pm ymlaen.
Bagiau (ar wahan i fagiau siopa, cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio) tu allan i seddi teithwyr: 20c am bob eitem.
Pob anifail domestig, ac eithrio cŵn tywys: 20c am bob anifail domestig.
Tâl am faeddu’r cerbyd £100.00.
Tâl ychwanegol am bob teithiwr ar gyfer siwrneiau mwy na 4 teithiwr: 20c y teithiwr dros 4 teithiwr.
Cynghorir Cwsmeriaid I ystyried y ffi yn erbyn y metr.
Ni ddylai siwrnai mewn cerbyd hacni gostio mwy na phrisiau uchaf y Cyngor.
Gwneud cais am drwydded cerbyd tacsi
Cyn i chi wneud cais am drwydded cerbyd hacni, mae’n rhaid i chi sicrhau:
- bod eich cerbyd yn cydymffurfio â'r amodau
- ei fod yn llai na 5 oed pan wneir y cais
Wrth wneud cais, bydd angen i chi ddarparu::
- dogfen gofrestru’r cerbyd (V5) sy’n dangos enw’r ceidwad cofrestredig ar dudalen 1 a manylebau’r cerbyd ar dudalen 2, neu gytundeb Bil Gwerthu / Prydles yn dangos yr un manylion
- eich tystysgrif yswiriant gyfredol a'ch amserlen os yw'n berthnasol
- tystysgrif cydymffurfio a thaflen arolygu
- ffi'r drwydded
- Gwasanaeth Lifft Symudedd a Thystysgrif Prawf Pwysau (Tystysgrif Rheoliad Gweithrediadau Codi ac Offer Codi (LOLER) lle bo hynny'n berthnasol)
Sut i wneud cais
Byddwch angen cyfrif ar-lein PP Cymru i wneud cais am drwydded cerbyd tacsi.
Cofrestru ar gyfer neu fewngofnodi i’ch cyfrif PP Cymru ar-lein
Dysgu mwy am gyfrifon ar-lein PP Cymru
Tystysgrif cydymffurfio
Y tro cyntaf y byddwch yn gwneud cais am drwydded cerbyd hacni, mae’n rhaid i’ch cerbyd lwyddo mewn prawf cydymffurfio. Mae’n rhaid cwblhau’r prawf yn ein gorsaf brawf drwyddedig ym Mharc Busnes Expressway, Ffordd Abergele, Bodelwyddan, LL18 5SQ. Gellir gwneud apwyntiad drwy ffonio 01745 839244.
Bydd y prawf cydymffurfio, sy’n cynnwys tystysgrif MOT, yn sicrhau bod eich cerbyd yn cyfateb â’r gofynion angenrheidiol. Ni ddylai cerbydau sy’n newydd i “fflyd” tacsi Sir Ddinbych fod yn hŷn na phum mlwydd oed. Os yw eich cerbyd yn llwyddo yn y prawf cydymffurfio, byddwch yn derbyn tystysgrif cydymffurfio, ac mae’n rhaid i chi ei chynnwys gyda’ch ffurflen gais am drwydded.
Yswiriant
Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth bod eich cerbyd wedi’i yswirio’n briodol. Golyga hyn bod yn rhaid i chi ddarparu tystysgrif yswiriant sy’n gymwys ar gyfer hurio cyhoeddus neu gerbyd hacni i’w hurio neu i dderbyn tâl. Bydd eich brocer yswiriant yn gallu rhoi cyngor i chi am yr yswiriant cywir.
Rhoi trwydded i chi
Unwaith y byddwn wedi derbyn yr holl waith papur, ac yn fodlon bod eich cerbyd yn ateb ein gofynion, gan gynnwys gosod arwydd to a mesurydd tacsi, byddwn yn cyhoeddi’r drwydded cerbyd a’r platiau ar gyfer eich cerbyd. Byddwn wedyn yn cysylltu â chi i drefnu i chi eu casglu o’n swyddfa.
Am ba hyd fydd y drwydded yn ddilys?
Mae trwyddedau’n cael eu rhoi am uchafswm o 12 mis.
Faint fydd y gost?
Mae gwneud cais am drwydded cerbyd hacni yn costio £200 ar hyn o bryd.
Gweld yr holl ffioedd gyrwyr tacsi, cerbydau a gweithredwyr
Sut y gallaf dalu
Bydd angen i chi wneud taliad wrth wneud cais am y drwydded hon trwy eich cyfrif PP Cymru.
Ffurflen Hysbysu Damwain Cerbyd
Os yw cerbyd trwyddedig yn cael ei ddifrodi, a bod y difrod hwnnw’n effeithio ar ddiogelwch, perfformiad a golwg y cerbyd trwyddedig neu ar gysur neu gyfleustra’r rhai sy’n cael eu cludo yn y cerbyd, mae’n rhaid rhoi gwybod am y ddamwain yn ysgrifenedig cyn pen 72 awr ar ôl y ddamwain.
Mae’n ofynnol i berchennog y cerbyd ddefnyddio’r Ffurflen Adrodd am Ddamwain Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat i roi gwybod am y ddamwain. Mae’n rhaid i’r manylion fod yn gywir ac yn gyflawn.
Ffurflen Adrodd Damweiniau Cerbydau Hacni a Hurio Preifat (PDF, 590KB)
Ildio Trwydded
I ildio’ch trwydded, llenwch y ffurflen ildio trwydded cerbyd Hacni/cerbyd hurio preifat a’i dychwelyd i trwyddedu@sirddinbych.gov.uk a gofalwch eich bod yn dychwelyd eich platiau trwydded a’ch cerdyn mewnol cyn pen 7 diwrnod i:
Trwyddedu
Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad
Cyngor Sir Ddinbych
Blwch Post 62
Rhuthun
LL15 9AZ
Gallai methu â gwneud hynny arwain at ddirwy ddyddiol fel y’i diffinnir yn Adran 58 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
Ffurflen ildio trwydded cerbyd Hacni/cerbyd hurio preifat (PDF, 106KB)
Trosglwyddo perchnogaeth
I drosglwyddo’r drwydded cerbyd oddi wrthych chi i unigolyn arall, llenwch y ffurflen caniatâd trosglwyddo trwydded cerbyd hacni/cerbyd hurio preifat a’i dychwelyd i trwyddedu@sirddinbych.gov.uk ynghyd â’r canlynol:
- Ffurflen ganiatâd i drosglwyddo trwydded oddi wrth ddeiliad/ddeiliaid y drwydded bresennol/gyfredol
- Dogfen gofrestru V5 yn dangos enw’r ceidwad cofrestredig newydd ar dudalen 1 a manylebau’r cerbyd ar dudalen 2, neu gytundeb Bil Gwerthu / Prydles yn dangos yr un manylion
- eich tystysgrif yswiriant gyfredol a'ch amserlen os yw'n berthnasol
- y ffi o £60
Cais am caniatad i trosglwyddo trwydded Cerbyd hacni/Hurio preifat (PDF, 146KB)
Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswyddau ar yrwyr trwyddedig tacsis a cherbydau hurio preifat sy'n gweithredu Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn i gludo teithwyr mewn cadair olwyn a darparu cymorth i sicrhau diogelwch a chysur rhesymol, heb unrhyw dâl ychwanegol.
Eithriad rhag cludo cadeiriau olwyn
Bydd angen i chi lenwi Ffurflen Gais am eithriad rhag cario cadeiriau olwyn a chynnig cymorth.
Rhaid i Feddyg Teulu’r ymgeisydd neu Feddyg Teulu Arbenigol arall lenwi’r ffurflen, a rhaid cynnwys tystiolaeth ddigonol megis diagnosis llawn, manylion ymchwiliadau parhaus ac ati.
Ewch i LLYW.CYMRU i gael ffurflen gais eithriad rhag cludo cadeiriau olwyn (gwefan allanol)
Ni fydd datganiad syml gan weithiwr meddygol proffesiynol yn cael ei ystyried yn ddigonol at ddiben y cais am eithriad. Bydd unrhyw daliadau a godir yn y broses hon yn daladwy gan yr ymgeisydd.
Polisi eithrio meddygol y Ddeddf Cydraddoldeb
Gallwch ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru i weld polisi eithrio meddygol y Ddeddf Cydraddoldeb.
Llywodraeth Cymru: Tacsis a cherbydau hurio preifat: polisi eithriadau meddygol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (gwefan allanol)
Rhagor o wybodaeth
Gallwch gael rhagor o wybodaeth o'n dogfen polisi ac amodau trwyddedu cerbydau hacni a hurio preifat.
Cerbyd hacni a hurio preifat amodau trwyddedu (PDF, 587KB)