I ddod yn yrrwr tacsi mae'n rhaid i chi:
- fod wedi dal trwydded yrru lawn am o leiaf 12 mis
- fod â gwybodaeth dda am Sir Ddinbych i gyd
- fod â cofnod gyrru boddhaol
- beidio bod ag euogfarnau a fyddai’n eich gwneud yn anaddas ar gyfer cludo aelodau o'r cyhoedd
Mae modd cael mwy o fanylion isod:
Sut mae gwneud cais?
Er mwyn gwneud cais am drwydded gyrrwr tacsi mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen gais. Dylid cynnwys y canlynol gyda’r ffurflen:
- Eich trwydded yrru DVLA
- Copi o gofnod y DVLA – gellir cael gafael ar hwn ar wefan www.gov.uk/view-driving-licence (gwefan allanol) - sy'n dangos cofnod am 4 blynedd
- Ffurflen asesiad meddygol wedi’i chwblhau gan eich meddyg
- Dogfennau gwreiddiol yn cadarnhau pwy ydych chi a beth yw eich cyfeiriad
- Ffi ymgeisio (£140 ar hyn o bryd)
- Un llun maint pasport
- Mandad i’r DVLA
- Dogfennau adnabod sy’n ategu eich hawl i weithio yn y DU
- Tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu Dystysgrif Ymddygiad Da a roddir gan y wlad berthnasol y tu allan i’r DU
Ffurflenni
Rydym yn argymell eich bod yn gwneud apwyntiad i ymweld â’r swyddfa drwyddedu er mwyn i ni wirio'r dogfennau gyda chi. Cysylltwch â ni ar 01824 706342 i drefnu apwyntiad.
Fel arall, gallwch anfon eich gwaith papur atom:
Trwyddedu
Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwalad
Caledfryn
Ffordd y Ffair
Dinbych
Sir Ddinbych
LL16 3RJ
Noder os nad ydych yn dod o’r DU yn wreiddiol, efallai y bydd gofynion ychwanegol. Cysylltwch â ni i drafod cyn i chi wneud cais.
Asesiad meddygol
Dylech drefnu apwyntiad gyda’ch Meddyg Teulu Cofrestredig er mwyn llenwi’r ffurflen asesiad meddygol. Gallwch gyflwyno eich ffurflen wedi’i llenwi gyda’ch cais, neu ei chyflwyno yn nes ymlaen cyn penderfynu ar y cais.
Gwiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) a gwiriad y DVLA
Fel rhan o’ch cais trwydded gyrrwr tacsi gyda Chyngor Sir Ddinbych, rhaid i ymgeiswyr gwblhau gwiriad Datgeliad cofnodion troseddol drwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) a gwiriad DVLA trwy TaxiPlus, a fydd yn gweinyddu eich cais ar ein rhan.
Gwnewch gais ar-lein am wiriad DBS ar wefan TaxiPlus (gwefan allanol)
Gwefan TaxiPlus yw’r unig wefan y gallwch wneud cais am wiriad DBS ar gyfer Bathodyn Gyrrwr Tacsi Trwyddedig Sir Ddinbych. Ni allwn dderbyn unrhyw ffurf arall o DBS ac ni fydd Sir Ddinbych yn atebol am geisiadau a wneir nac arian sy’n cael ei wario ar unrhyw safle arall.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y broses gwneud cais unwaith yr ydych ar wefan TaxiPlus, cysylltwch â hwy’n uniongyrchol ar:
Ffôn: 01254 355 679
Ebost: hello@taxiplus.co.uk
Sgwrsio ar y we: Gwefan TaxiPlus (gwefan allanol)
Ar hyn o bryd, mae angen diweddaru tystysgrifau GDG bob 3 blynedd, fodd bynnag, fe’ch anogir yn gryf i gofrestru gyda Gwasanaeth Diweddaru’r GDG. Mae cynigion i wneud hyn yn orfodol ar draws Cymru yn y dyfodol agos iawn, ond mae manteision eisoes i gofrestru gyda’r Gwasanaeth Diweddaru oherwydd:
- mae’n rhatach i ymgeiswyr dros yr un cyfnod 3 blynedd
- bydd gennych wiriad GDG o hyd at ddibenion trwyddedu tacsi wrth adnewyddu eich trwydded
Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan TaxiPlus yn uniongyrchol am sut i gofrestru.
Prawf gwybodaeth
Mae’n rhaid i bob gyrrwr, boed yn yrrwr cerbyd hacni neu hurio preifat, lwyddo mewn prawf gwybodaeth. Mae'r prawf hwn yn cynnwys cwestiynau am:
- daearyddiaeth leol, gan gynnwys llwybrau teithio
- amodau cerbydau hacni a hurio preifat
- safleoedd a thariffau cerbydau hacni
- rhifedd
- sgiliau gofal cwsmeriaid
- rheolau’r ffordd fawr
- rheolwaith cynnal a chadw cerbydau
- ymwybyddiaeth o ddiogelu
Gallwch wneud y prawf gynifer o weithiau ag sydd angen i chi lwyddo. Mae’r ddau ymgais cyntaf am ddim ond mae angen talu am ymgeisio wedi hynny. Petaech yn methu’r prawf, mae’n rhaid aros am wythnos cyn rhoi cynnig arall arni.
Mae’n rhaid i chi wneud apwyntiad i sefyll y prawf ar-lein yn bersonol yn ein swyddfeydd yn Ninbych. Gallwch gysylltu â ni ar-lein neu ffonio ar 01824 706342 i drefnu hyn.
Rhoi trwydded i chi
Pan fyddwn wedi derbyn yr holl waith papur angenrheidiol byddwn yn cysylltu â chi gyda’n penderfyniad i ddweud a ydym yn rhoi trwydded i chi ai peidio.
Am ba hyd y mae'r drwydded yn ddilys?
Bydd trwyddedau'n ddilys am hyd at 3 blynedd a chânt eu hadnewyddu gyda chylch y DBS.
Faint fydd y gost?
£270 am drwydded 3 blynedd;
£250 am drwydded blwyddyn NEWYDD (mae ffioedd adnewyddu am y math hwn o drwydded yn amrywio - cysylltwch â ni am wybodaeth)
Nid yw’r ffioedd hyn yn cynnwys cost gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd sy’n daladwy ar wahân.
Sut y gallaf dalu?
Gellir talu â cherdyn dros y ffôn i wasanaethau cwsmeriaid (01824 706000). Mae taliad gyda siec neu arian parod ar gael yn un o Siopau Un Alwad Sir Ddinbych yn unig. Cysylltwch â ni i gael y cyfeirnod priodol cyn ceisio talu. Gall methu â darparu’r cyfeirnod priodol achosi oedi gyda’ch cais
Newid eich manylion
Os oes gennych drwydded, mae’n rhaid i chi ein hysbysu am unrhyw newid i’ch amgylchiadau.
Ni chodir tâl am newid eich manylion.
Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae Adran 165 ac Adran 168 yn gosod dyletswyddau ar yrrwr trwyddedig. Cyfeiriwch at y wybodaeth ganlynol am ofynion y ddeddf a sut i wneud cais am eithriad.
Cais am eithriad rhag dyletswyddau o dan ddeddf Cydraddoldeb 2010 (PDF, 611KB)
Llywodraeth Cymru: Tacsis a cherbydau hurio preifat - polisi eithriadau meddygol o dan y ddeddf cydraddoldeb (gwefan allanol)