Mynd yn syth i:
Mae Treth y Cyngor rydych chi’n ei thalu yn cael ei chasglu i ddarparu gwasanaethau lleol fel addysg, glanhau strydoedd a phlismona.

Mae’r swm a dalwch yn dibynnu ar y band sydd wedi cael ei ddyrannu i’ch eiddo yn unol â’i werth ar 1 Ebrill 2003.

Y Swyddfa Brisio (gwefan allanol) sy’n gyfrifol am fandio pob eiddo yng Nghymru.

Rydym yn cyfrifo pob band prisio fel cyfran o Dreth y Cyngor o’i gymharu â Band D.
Darganfyddwch fwy am fandiau eiddo Treth y Cyngor.
Mae Treth y Cyngor yn cynnwys tri thaliad ar wahân (gelwir yn ‘braeseptau’ hefyd) sy’n llunio’r cyfanswm a godir ar bob eiddo yn Sir Ddinbych.
Mae’r arian a gesglir yn cael ei rannu rhwng:
- Cyngor Sir Ddinbych: 80%
- Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: 17%
- Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned: 3%

Y Cyngor Sir sy’n cymryd y gyfran fwyaf o’ch Treth y Cyngor. Mae’r arian hwn nyn mynd at ddarparu gwasanaethau lleol ar gyfer y sir.
Ar beth y caiff eich arian ei wario bob blwyddyn
(yn seiliedig ar Dreth y Cyngor eiddo Band D o £1,779.48 yn 2025/2026 ar gyfer gwasanaethau Cyngor Sir Ddinbych (gan gynnwys Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru)).
Gwasanaeth | Swm (£) (2025/2026) | % |
Ysgolion ac Addysg |
£652.48 |
36.7% |
Gofal cymdeithasol i blant ac oedolion |
£529.80 |
29.8% |
Costau benthyca |
£123.21 |
6.9% |
Cynllun gostyngiadau treth y Cyngor |
£73.87 |
4.2% |
Cludiant ysgol |
£51.84 |
2.9% |
Y Gwasanaeth Tân |
£44.54 |
2.5% |
Gwasanaethau cymorth corfforaethol |
£35.60 |
2.0% |
Gwarchod y cyhoedd ac iechyd yr amgylchedd |
£33.11 |
1.9% |
Gwagio biniau ac ailgylchu |
£32.89 |
1.8% |
Priffyrdd ac isadeiledd |
£31.92 |
1.8% |
Atal digartrefedd |
£30.80 |
1.7% |
Cefn Gwlad a mannau agored |
£20.38 |
1.1% |
Cael gwared ar wastraff |
£17.55 |
1.0% |
Chwaraeon a hamdden |
£15.83 |
0.9% |
Twristiaeth, diwylliant a threftadaeth |
£15.31 |
0.9% |
Goleuadau stryd |
£14.01 |
0.8% |
Datblygiad a chynllunio economaidd |
£11.93 |
0.7% |
Glanhau strydoedd |
£11.12 |
0.6% |
Casglu treth y Cyngor a gweinyddu budd-dal tai |
£11.01 |
0.6% |
Llyfrgelloedd |
£9.36 |
0.5% |
Cynghorwyr a’r broses ddemocrataidd |
£8.72 |
0.5% |
Gwasanaethau ieuenctid |
£4.21 |
0.2% |
Mae dyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i ddarparu gwasanaethau fel addysg, iechyd yr amgylchedd, gwasanaethau cymdeithasol a chynllunio gwlad a thref ar gyfer Sir Ddinbych gyfan.
Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (gwefan allanol) yw’r corff llywodraethu lleol ar gyfer plismona. Maen nhw’n gosod eu helfen ('praesept') eu hunain o Dreth y Cyngor.
Praesept 2025/2026 ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yw £114 miliwn, sydd gyfwerth â £372.15 o Dreth y Cyngor ar gyfer eiddo Band D.
Mae’r elfen hon o Dreth y Cyngor y tu hwnt i reolaeth y Cyngor Sir.
Darganfyddwch fwy am braesept Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Mae gan Sir Ddinbych 37 Cyngor Dinas, Tref a Chymuned a’u rôl yw cynrychioli cymunedau lleol a darparu gwasanaethau lleol fel:
- arwyddion a hysbysfyrddau gwybodaeth i’r cyhoedd
- seddi cyhoeddus
- llochesi bws
- cofebau rhyfel
- canolfannau cymunedol
Mae Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn gosod eu helfen (‘praesept’) eu hunain o Dreth y Cyngor. Bob blwyddyn ariannol, mae’n rhaid iddynt gyfrifo eu gofynion cyllidebol a chyhoeddi’r praesept i’r awdurdod bilio (Cyngor Sir Ddinbych).
Fe gaiff y praesept ei drosi’n swm fesul Band Treth y Cyngor a gaiff ei ychwanegu i’r bil Treth y Cyngor. Telir y swm net (praesept) i Gynghorau Dinas, Tref neu Gymuned mewn dau randaliad bob chwe mis.
Darganfyddwch fwy am braesept Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.