Safonau Gwasanaeth Cwsmeriaid

Mae ein safonau Gwasanaeth Cwsmeriaid yn egluro beth y gallwch ei ddisgwyl gan y Cyngor pan fyddwch yn cysylltu â ni.

Rydym yn addo i’w gwneud yn hawdd i chi gael mynediad at ein gwasanaethau mewn ffyrdd sy'n gyfleus ac ar gael i chi.

Rydym ni’n ymroddedig i’ch rhoi chi, y cwsmer, wrth wraidd yr hyn rydym ni’n ei wneud a’r ffordd rydym ni’n gweithio. Mae hyn yn golygu y byddwn ni, y Cyngor, yn:-

  • gymryd cyfrifoldeb;
  • bod yn gwrtais, proffesiynol a cheisio helpu bob tro;
  • gwrando fel y gallwn ddeall anghenion ein cwsmeriaid yn well;
  • gwneud pethau’n iawn y tro cyntaf;
  • egluro beth fydd yn digwydd nesaf a phryd;
  • darparu gwybodaeth gywir;
  • rhoi gwybod am y newyddion diweddaraf i chi;
  • cyfathrebu gyda chwsmeriaid yn eu dewis o iaith neu ddull;
  • croesawu adborth a dweud wrthych sut y mae wedi gwneud gwahaniaeth; a
  • trin cwsmeriaid yn deg a gyda pharch;

Pan fyddwch chi:

Ewch i’n gwefan neu e-bostiwch ni

Byddwn yn cydnabod eich ymholiad cyn gynted â phosibl ac yn anfon ymateb llawn o fewn 10 diwrnod gwaith.

Ffôn

Byddwn yn ateb eich galwad cyn gynted â phosibl ac yn gwneud yn siŵr fod eich ymholiad neu’ch cais yn cael ei gyfeirio at y person cywir y tro cyntaf.

Ysgrifennu

Byddwn yn ysgrifennu yn ôl cyn gynted ag y bo modd, ac ar yr hwyraf o fewn 10 diwrnod gwaith gydag ateb neu esboniad o'r hyn a fydd yn digwydd nesaf, pam a phryd.

Ymweld

Byddwn yn delio â'ch ymholiad yn syth ac yn eich cyfeirio at y person cywir y tro cyntaf.

Gofyn i ni ymweld

Byddwn yn gwneud apwyntiad ymlaen llaw lle bo hynny'n bosibl. Os na, byddwn yn dweud pwy ydym yn glir gyda bathodyn enw neu gerdyn warant, gan esbonio pwy ydym ni a pham yr ydym yn ymweld.

Os nad ydym yn bodloni'r safonau hyn neu os oes gennych awgrym neu sylw am ein gwasanaethau rhowch wybod i ni.

I wybod beth allwch chi ei ddisgwyl gan wasanaethau unigol y Cyngor, gwelwch eu safonau Gwasanaeth Cwsmer isod: