Teuluoedd yn Gyntaf: ein cefnogaeth

Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn grŵp o bobl a all gefnogi eich teulu yn ystod cyfnod anodd. Rydym yn darparu cymorth i’ch teulu ac yn gweithio i sicrhau bod pob angen yn cael eu diwallu mewn modd cydlynol (dull Tîm o Amgylch y Teulu), ar yr adeg iawn pan fydd angen hynny ar eich teulu.

Gyda pha bethau y gallwn eich helpu chi?

Mae llawer o ffyrdd y gallwn gefnogi eich teulu. Rydym yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc hyd at 25 oed, eu rhieni neu eu gwarcheidwaid, ac aelodau eraill o'r teulu a allai fod yn rhan o'r darlun ehangach.

Gallwn ddarparu cymorth a chyngor cyfrinachol ar:

  • sgiliau rhianta, er mwyn helpu i reoli ymddygiad eich plentyn neu berson ifanc
  • problemau perthynas neu wrthdaro yn y teulu
  • cefnogaeth a chyngor i bobl ifanc 11-25 oed
  • cefnogi gofalwyr ifanc a'u teuluoedd
  • effeithlonrwydd ynni, a hawliau tai a chyflogaeth
  • eich helpu i wneud y gorau o'ch arian
  • delio â cholled
  • Cynyddu cyfleoedd i blant anabl a phobl ifanc gael mynediad at weithgareddau.
  • syniadau chwarae a rheoli ymddygiad i rieni a gofalwyr am blant a phobl ifanc anabl
  • hyfforddiant anabledd ar gyfer rhieni a gofalwyr

Rydym yn gwneud hyn drwy:

  • Gwrando ar eich pryderon
  • nodi holl faterion ac anghenion eich teulu
  • dyrannu'r bobl iawn i'ch cefnogi chi
  • cael cyfarfod dan arweiniad y teulu
  • creu Cynllun Gweithredu i Deuluoedd
  • gweithio gyda'n gilydd i ddatrys y problemau

Sut i gael cymorth

Os hoffech chi ofyn am gymorth gennym ni, gallwch lenwi ffurflen hunangyfeirio ar-lein.

Llenwch ffurflen hunangyfeirio ar-lein

Os hoffech gyfeirio rhywun arall am gymorth, llwythwch ffurflen atgyfeirio i lawr a'i e-bostio i cfsgateway@denbighshire.gov.uk

Plant a theuluoedd: ffurflen atgyfeirio (MS Word, 686KB)

Fel arall, gallwch ein ffonio ni ar 01824 712200.

Mwy am Teuluoedd yn Gyntaf

Mae gennym ymagwedd integredig tuag at gymorth i deuluoedd, ac rydym yn canolbwyntio ar:

  • wella canlyniadau ar gyfer y teulu cyfan, nid dim ond aelodau unigol o'r teulu
  • teilwra cymorth i amgylchiadau unigryw'r teulu unigol
  • cydlynu gwasanaethau, fel bod teuluoedd yn cael cymorth di-dor gan y gwahanol sefydliadau
  • ceisio canfod materion yn gynnar ac ymyrryd yn briodol ar gyfer teuluoedd
  • nodi anghenion cymunedau lleol, a gweithio gyda rhaglenni eraill i ddarparu gwasanaethau priodol i gyd-fynd â'r anghenion hynny

Dyfyniadau gan deuluoedd sydd wedi derbyn cefnogaeth gan Deuluoedd yn Gyntaf / Tîm o Amgylch y Teulu

"Mae’r help a’r gefnogaeth mae fy nheulu wedi’u derbyn yn wych. Diolch!"

“Mae'r Tîm o Amgylch y Teulu wir wedi newid ein bywyd ni er gwell. Rydym wedi dysgu ein bod yn ddigon cryf fel teulu i ymdopi â heriau dydd i ddydd. Heb y Tîm, wn i ddim ble fydden ni heddiw. Mae’n anodd dychmygu. Rwy’n gobeithio eu bod yn gallu helpu mwy o deuluoedd fel fy un i.”

Gweithio gyda'r teulu cyfan

Y ffordd orau o gefnogi plant yw drwy weithio gyda'r teulu cyfan. Mae tystiolaeth yn awgrymu pan fydd teuluoedd yn cael cymorth cynnar, eu bod yn llai tebygol o ddatblygu anghenion mwy cymhleth a chostus.

Mae angen cefnogaeth wahanol ar deuluoedd yn dibynnu ar eu hamgylchiadau. Mae angen cymorth mwy dwys ar gyfer problemau cymhleth, tra efallai y bydd angen cymorth ar rai teuluoedd i oresgyn problemau llai, i'w hatal rhag gwaethygu.

Yn aml mae angen llawer o wahanol dimau a gwasanaethau i gefnogi teulu. Rydym yn defnyddio fframwaith asesu teuluoedd ar y cyd i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn gweithio'n dda gyda'i gilydd, fel bod y teulu cyfan yn cael ei gefnogi'n dda.

Mae'r diagram hwn yn dangos sut rydym yn cydlynu’r gwahanol dimau a gwasanaethau sy’n gweithio i gefnogi teulu.

Siart-llif Teuluoedd yn Gyntaf (PDF, 326KB)

Dogfennau cysylltiedig

Protocol rhannu gwybodaeth ar gyfer teuluoedd yn gyntaf (PDF, 1.19MB)