Y Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig
Mae’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn nodi’r cynigion a’r polisïau ar gyfer datblygu a defnyddio tir yn Sir Ddinbych yn y dyfodol. Cafodd ein CDLl ni ei fabwysiadu ym mis Mehefin 2013.
CDLl Ddiweddariad Covid-19
Diweddariad Cyffredinol
Mae’r wybodaeth hon yn darparu diweddariad am gynnydd presennol gyda Chynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Sir Ddinbych 2018-2033. Yn anffodus, bu oedi oherwydd pandemig y Coronafeirws ond mae gwaith wedi parhau yn y cefndir lle bynnag bu’n bosibl. Yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf, bu nifer o ofynion newydd y mae’n rhaid i’r CDLl eu bodloni gan gynnwys newidiadau i Bolisi a Chanllawiau Cenedlaethol ac mae angen diweddaru rhywfaint o’r sylfaen dystiolaeth a baratowyd o’r blaen. Mae hyn yn cynnwys Nodyn Cyngor Technegol wedi ei ddiwygio ar risg llifogydd sy’n gofyn am ddiweddaru ein Hasesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd. Ni ellir symud ymlaen gyda’r Strategaeth CDLl na gwaith ar safleoedd hyd nes bod hyn wedi ei gwblhau. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i fodloni’r heriau hyn. Bydd angen adolygu’r cytundeb darparu sy’n nodi’r amserlen a’r trefniadau ymgynghori ar gyfer y CDLl newydd a rhagwelir y bydd hyn yn digwydd yn ystod haf 2022.
Mae dogfen Llywodraeth Cymru ‘Cymru’r Dyfodol - y Cynllun Cenedlaethol 2040’ a dogfen Cyngor Sir Ddinbych ‘Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021' yn ffurfio cynllun datblygu’r Sir nes i’r CDLl newydd gael ei fabwysiadu gan yr awdurdod cynllunio lleol. Caiff pob cais cynllunio ei asesu yn erbyn polisïau'r cynllun datblygu yn ogystal â pholisïau cynllunio fel a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru Rhifyn 11.
Safleoedd Ymgeisiol
Mae newidiadau sydd ar droed i bolisi a chanllawiau cenedlaethol yn cael effaith uniongyrchol ar asesiadau ar safleoedd ymgeisiol. Rydym yn sylweddoli bod pawb yn awyddus i weld canlyniadau’r asesiadau safle ond oherwydd y gwaith parhaus, ni fydd adroddiadau am asesiadau safleoedd ymgeisiol yn cael eu gwneud tan o leiaf haf 2022. Adroddir am bob un o’r safleoedd ymgeisiol gyda’i gilydd ac ni ddarperir diweddariadau am safleoedd unigol cyn yr adrodd ffurfiol.
Mapiau
Ers mabwysiadu CDLl Sir Ddinbych yn 2006-2021 mae Ardal Gadwraeth y Rhyl wedi’i hadolygu a’i diwygio. Mae Ardal Gadwraeth y Rhyl bellach yn wahanol i’r hyn a ddangosir ar fapiau cynigion y CDLl a’r map rhyngweithiol.
Ardal Gadwraeth ddiwygiedig y Rhyl (PDF, 5.37MB)
Map: Y Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig
Mapiau Cynigion Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych 2006–2021 (Pentrefi)
- Map Cynigion y CDLl - Betws GG Mai 2013 (PDF, 2.9MB)
- Map Cynigion y CDLl - Bodfari Mai 2013 (PDF, 4.42MB)
- Map Cynigion y CDLl - Bryneglwys Mai 2013 (PDF, 3.31MB)
- Map Cynigion y CDLl - Cadole Mai 2013 (PDF, 3.25MB)
- Map Cynigion y CDLl - Carrog Mai 2013 (PDF, 3.62MB)
- Map Cynigion y CDLl - Clawddnewydd Mai 2013 (PDF, 3.12MB)
- Map Cynigion y CDLl - Clocaenog Mai 2013 (PDF, 3.2MB)
- Map Cynigion y CDLl - Cyffylliog Mai 2013 (PDF, 3.98MB)
- Map Cynigion y CDLl - Cynwyd Mai 2013 (PDF, 3.47MB)
- Map Cynigion y CDLl - Dyserth Mai 2013 (PDF, 5.1MB)
- Map Cynigion y CDLl - Eryrys Mai 2013 (PDF, 3.26MB)
- Map Cynigion y CDLl - Gellifor Mai 2013 (PDF, 3MB)
- Map Cynigion y CDLl - Glyndyfrdwy Mai 2013 (PDF, 3.2MB)
- Map Cynigion y CDLl - Graigfechan Mai 2013 (PDF, 4.27MB)
- Map Cynigion y CDLl - Graig Lelo Mai 2013 (PDF, 3.8MB)
- Map Cynigion y CDLl - Gwyddelwern Mai 2013 (PDF, 3.12MB)
- Map Cynigion y CDLl - Henllan Mai 2013 (PDF, 3.57MB)
- Map Cynigion y CDLl - Llanarmon yn Ial Mai 2013 (PDF, 3.28MB)
- Map Cynigion y CDLl - Llanbedr Dyffryn Clwyd Mai 2013 (PDF, 3.22MB)
- Map Cynigion y CDLl - Llandegla Mai 2013 (PDF, 3.19MB)
- Map Cynigion y CDLl - Llandrillo Mai 2013 (PDF, 3.59MB)
- Map Cynigion y CDLl - Llandyrnog Mai 2013 (PDF, 3.18MB)
- Map Cynigion y CDLl - Llanfair Dyffryn Clwyd Mai 2013 (PDF, 2.98MB)
- Map Cynigion y CDLl - Llanferres Mai 2013 (PDF, 2MB)
- Map Cynigion y CDLl - Meliden Mai 2013 (PDF, 5.32MB)
- Map Cynigion y CDLl - Nantglyn Mai 2013 (PDF, 3.24MB)
- Map Cynigion y CDLl - Pentre Llanrhaeadr Mai 2013 (PDF, 3.42MB)
- Map Cynigion y CDLl - Pwllglas Mai 2013 (PDF, 3.44MB)
- Map Cynigion y CDLl - Rhewl Mai 2013 (PDF, 3.6MB)
- Map Cynigion y CDLl - Rhuallt Mai 2013 (PDF, 4.37MB)
- Map Cynigion y CDLl - Rhuddlan Mai 2013 (PDF, 7.85MB)
- Map Cynigion y CDLl - Trefnant Mai 2013 (PDF, 4.61MB)
- Map Cynigion y CDLl - Tremeirchion Mai 2013 (PDF, 3.31MB)
Mapiau Cynigion Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych 2006–2021 (Pentrefannau)
- Map Cynigion y CDLl - Teras Yr Abaty - Mai 2013 (PDF, 2.65MB)
- Map Cynigion y CDLl - Aberchwiler Mai 2013 (PDF, 2.57MB)
- Map Cynigion y CDLl - Bontuchel Mai 2013 (PDF, 3.5MB)
- Map Cynigion y CDLl - Cefn Mairwen Mai 2013 (PDF, 3.43MB)
- Map Cynigion y CDLl - Cwm Mai 2013 (PDF, 2.83MB)
- Map Cynigion y CDLl - Derwen Mai 2013 (PDF, 2.52MB)
- Map Cynigion y CDLl - Graianrhyd Mai 2013 (PDF, 4.16MB)
- Map Cynigion y CDLl - Groesffordd Marli and Cae Onnen Mai 2013 (PDF, 3.13MB)
- Map Cynigion y CDLl - Hendrerwydd Mai 2013 (PDF, 2.48MB)
- Map Cynigion y CDLl - Hirwaen Mai 2013 (PDF, 2.53MB)
- Map Cynigion y CDLl - Llanelidan Mai 2013 (PDF, 2.72MB)
- Map Cynigion y CDLl - Llangynhafal Mai 2013 (PDF, 4.49MB)
- Map Cynigion y CDLl - Llanrhaeadr Y C Mai 2013 (PDF, 2.67MB)
- Map Cynigion y CDLl - Llanrhydd Mai 2013 (PDF, 2.61MB)
- Map Cynigion y CDLl - Llanynys Mai 2013 (PDF, 2.54MB)
- Map Cynigion y CDLl - Loggerheads Mai 2013 (PDF, 2.72MB)
- Map Cynigion y CDLl - Maeshafn Mai 2013 (PDF, 2.96MB)
- Map Cynigion y CDLl - Marian Cwm Mai 2013 (PDF, 2.47MB)
- Map Cynigion y CDLl - Melin Y Wig Mai 2013 (PDF, 5.7MB)
- Map Cynigion y CDLl - Pant Pastynog Mai 2013 (PDF, 2.5MB)
- Map Cynigion y CDLl - Peniel Mai 2013 (PDF, 2.8MB)
- Map Cynigion y CDLl - Pentrecelyn Mai 2013 (PDF, 3.07MB)
- Map Cynigion y CDLl - Pentredwr Mai 2013 (PDF, 2.87MB)
- Map Cynigion y CDLl - Prion Mai 2013 (PDF, 2.71MB)
- Map Cynigion y CDLl - Saron Mai 2013 (PDF, 2.46MB)
- Map Cynigion y CDLl - Tafarn Y Gelyn Mai 2013 (PDF, 3.03MB)
- Map Cynigion y CDLl - Y Green Mai 2013 (PDF, 3.03MB)
Canllawiau i Ddatblygwyr
Ar hyn o bryd, nid yw’r Cyngor yn gallu dangos bod 5 mlynedd o gyflenwad tir ar gyfer tai ar gael fel sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru.
Mae hyn wedi arwain at nifer o geisiadau ac ymholiadau cynllunio ar gyfer datblygu tai ar safleoedd y tu allan i ffiniau datblygu fel maent wedi’u nodi yn y CDLl mabwysiedig.
Mae’r Cyngor felly wedi drafftio Canllaw i Ddatblygwyr a gafodd ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio ar 11 Tachwedd 2015. Pwrpas y Canllaw yw rhoi arweiniad i ddarpar ymgeiswyr ar ddarparu tystiolaeth gynhwysfawr i ddangos bod y datblygiad arfaethedig yn gynaliadwy a'i fod yn ymarferol ac yn gyflawnadwy er mwyn iddo wneud cyfraniad gwirioneddol a chynnar at y cyflenwad tir ar gyfer tai ac adeiladu ar y safle.
Canllaw i Ddatblygwyr – Cynigion Datblygu Tai y Tu Allan i'r Cynllun Datblygu Lleol (PDF, 231KB)
Prosbectws Tir ar gyfer Tai
Diben y ddogfen hon yw darparu rhestr o gyfleoedd datblygu tai yn Sir Ddinbych i ddatblygwyr a buddsoddwyr. Bwriad y prosbectws hwn yw crynhoi ystyriaethau datblygu hysbys ar gyfer pob safle tai. Mae un safle ar bob tudalen yn galluogi dosbarthu’r holl wybodaeth gefndir berthnasol yn hawdd yn ystod y cam cyn gwneud cais.
Mae'r Prosbectws Tai yn rhestru tua 60 o safleoedd sydd ar gael ar gyfer datblygiadau preswyl yn Sir Ddinbych. Mae'n amlinellu nodweddion y safle a pholisïau lleol sy'n berthnasol i unrhyw geisiadau cynllunio yn y dyfodol yn fras. Rydym yn hapus i ddarparu gwasanaeth llawn cyn gwneud cais.
Mae'r tîm Cynllunio Strategol a Thai yn hapus i helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych.
Astudiaeth Deiliadaeth Tai Newydd (PDF, 692KB)
Cysylltu â ni