Croeso i Sir Ddinbych

Llongyfarchiadau ar eich swydd newydd ac am ymuno ag un o'r cynghorau gyda'r perfformiad gorau yng Nghymru. Rydym yn ymdrechu i fod y gorau ac yn falch iawn o'r gwaith rydym ni'n ei wneud a sut yr ydym yn perfformio fel cyngor. Yma byddwch yn dysgu am ein Cynllun Corfforaethol, a sut y mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd er lles dyfodol Sir Ddinbych.

Byddwch hefyd yn dod o hyd i lawer o wybodaeth a ffeithiau pwysig am weithio yn Sir Ddinbych, yn ogystal â dolenni i chi ddysgu mwy am y sir.

Nodau a Gwerthoedd

Rydym ni'n credu bod y ffordd y mae pobl yn y sefydliad yn ymddwyn tuag at ei gilydd, a thuag at y rheiny y down i gysylltiad â nhw, yn hanfodol i sicrhau perfformiad effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau.

Ein nod

Bod yn gyngor sy'n perfformio ar lefel uchel ac sy'n agos at ei gymuned.

Ein gwerthoedd

  • Balchder: Rydym yn anelu at greu ymdeimlad o falchder o weithio i'n sefydliad.
  • Undod: Rydym i gyd yn gweithio i’r un sefydliad.
  • Parch: Rydym yn anelu at drin pawb yn gyfartal ac yn deg, gan ddeall y bydd gan rai pobl wahanol farn a chredoau i ni.
  • Uniondeb: Rydym yn anelu at reoli ein hunain i wneud y mwyaf o'n perfformiad, cyrraedd safonau ymddygiad uchel a chyflwyno delwedd gadarnhaol o Sir Ddinbych.

Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem

Mae’r Cynllun hwn yn nodi’r hyn yr hoffem ei gyflawni er budd preswylwyr a chymunedau lleol i gyflawni’r Sir Ddinbych a Garem. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu ein gweithgareddau mewn modd cynaliadwy er budd hirdymor ein cymunedau a chenedlaethau’r dyfodol.

Darllenwch ein Cynllun Corfforaethol a chymerwch olwg ar y prosiectau rydym ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw.