Ynglŷn ag iechyd meddwl a lles

Ynglŷn ag iechyd meddwl a lles gweithwyr

Mae gan bawb iechyd meddwl, yn union fel mae gan bawb iechyd corfforol. Gall y naill effeithio ar y llall.

Iechyd meddwl ydi'r cyflwr meddyliol ac emosiynol y gallwn ni deimlo er mwyn ymdopi â phwysau arferol bywyd bob dydd.

Mae ein hiechyd meddwl yn bwysig gan ei fod yn dylanwadu ar nid yn unig sut rydym ni'n meddwl a theimlo am ein hunain, ond ynglŷn â sut rydym ni'n meddwl a theimlo am bobl eraill, gan effeithio ar ein ffordd o feddwl am sefyllfa neu'r amgylchedd o'n hamgylch.

Rydym eisiau cefnogi ein staff i fod ag iechyd meddwl a lles positif, ac i chi wybod ym mhle y gallwch chi gael gafael ar gefnogaeth ar yr adegau y byddwch yn teimlo y mae ei angen arnoch.

Rydym eisiau i bawb wybod ei bod hi'n iawn i beidio bod yn iawn.

Bydd 1 mewn 4 o oedolion yn dioddef o broblem iechyd meddwl. Mae'n gwbl normal ac mae’n bosibl eich bod wedi teimlo fel hyn ar ryw adeg yn eich bywyd o ganlyniad i broblemau a ddaw o ddydd i ddydd megis straen gwaith, trafferthion gyda'r car, cyfrifoldebau gofalu neu ffraeo gyda ffrindiau neu deulu.

Ar adegau eraill, gall y teimladau yma gael eu sbarduno oherwydd digwyddiad arwyddocaol, megis rhywun agos atoch chi'n marw, perthynas yn chwalu, problemau iechyd meddwl neu bryderon ariannol. Nid yw hi'n amlwg weithiau beth ydi'r achos.

Dogfennau cysylltiedig

Polisi cefnogi Iechyd Meddwl yn y Gweithle (PDF, 436KB)

Vivup

Bwriad Vivup yw eich helpu chi gyda gwahanol faterion gwaith, teuluol a phersonol. Mae’n wasanaeth am ddim ac nid oes rhaid gofyn i'ch rheolwr i gael ei ddefnyddio.

I gysylltu â Vivup, ffoniwch 0800 023 9387 neu fe allwch gael gafael ar y gwasanaeth yn gyfrinachol ar-lein ar Vivup (gwefan allanol).


Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru Amswer i Newid Cymru