Gofal cymdeithasol: Astudiaethau achos

Straeon go iawn gan bobl go iawn

Stori Catherine


"Mae na wahanol swyddi yn y cartre 'ma. Mae 'na gynorthwy-wyr gofal, uwch ofalwyr, swyddogion llanw, rheolwyr ac mae na hefyd lwybrau arall os oes rhywun eisiau mynd i mewn i nyrsio neu fod yn therapydd galwedigaethol neu weithiwr cymdeithasol, felly mae o'n agor drysau.

Mae 'na lot o gefnoageth. Mae na ddigon o gyrsiau allan yna. Cwrs i neud QCF (Qualified Care) trwy'r coleg ond ei wneud o yn y gwaith. Dim pawb sydd eisiau mynd i'r coleg neu’n gallu fforddio mynd ac hefyd mae o’n ffordd o ddysgu fel da chi'n gweithio.

Mae na ddigon o hyfforddiant. Ar hyn o bryd da ni gyd yn ei neud o ar Zoom oherwydd y pandemig. Mae na gyfleoedd i neud progression i rol arall. Mae'r staff i gyd yn cefnogi eu gilydd. Os oes rhywun ddim yn siwr o rhywbeth mae'r uwch ofalwyr yno i'w helpu nhw, a'r rheolwyr yno hefyd.

Nes i ddechrau yma dros ugain mlynedd yn ol. Roedd y plant yn fach adeg yna ac wedyn nes i gychwyn ar y supply, mynd ymlaen i wneud gofal dydd, wedyn fel uwch ofalwr a swyddog llanw ac erbyn hyn yn reolwr cynorthwyol.

Pan oedd y plant yn fychan, roedd hyn yn siwtio bywyd cartref. Roedd teulu o gwmpas i warchod hefyd ond oed o'n gweithio oherwydd wahanol shifftiau. Dw i ddim yn meddwl bod y plant di colli allan. Dw i wedio bod yno ar foreau Sadwrn yn gwylio'r pel droed, cyngherddau Nadolig felly roedd yr hyblygrwydd yno a deud y gwir.

Mae'n Andros o gytmuned fach, mae pawb yn nabod eu gilydd, mae trigolion yn nabod y staff, adnabod y teuluoedd, felly mae'n helpu. Da ni'n lwcus o'r gymuned hefyd a hefyd mae'r staff wedi bod yma ers blynyddoedd a wedyn mae pawb yn nabod eu gilydd; mae plant y staff yn nabod eu gilydd, so mae hi'n andros o gartrefol yma."

Neges i bobl:

"Go for it! Os 'dach chi'n hoffi bod o gwmpas pobl, give it a go, does gennych chi ddim byd i'w golli. Mae o'n ffordd lle rydych yn gallu gweithio a chael cymwysterau yr un pryd, a dal magu'ch plant yr un adeg."


Stori Kendal


"Pan adewais yr ysgol yn 16 fe benderfynais ddilyn cwrs iechyd a gofal cymdeithasol, BTEC, Lefel 3 yn y coleg. Wedi hynny fe es yn syth i faes gofal cartref.

Erbyn hyn rydw i’n goruchwylio’r staff. Rydw i’n un o’r staff uwch yma yn nhai gofal ychwanegol Gorwel Newydd yma yn y Rhyl ac yn sylfaenol mae pobl yn byw yma yn eu rhandai eu hunain ac mae Sir Ddinbych yn darparu’r cymorth o ran gofal a’r gefnogaeth os oes angen hynny ac rydym yn gweithio gyda Clwyd Alyn ar yr elfennau’n ymwneud â thai. Rydym yma os oes angen y cymorth arnynt, ond fe all y rhan fwyaf o bobl fyw’n annibynnol.

Mae gennym ni ystafell fwyta, gorffwys, lle trin gwallt ac ystafell ddiddordebau i lawr y grisiau. Ac rydym ni’n cynnal gwahanol ddigwyddiadau, yn fwyaf diweddar fe gynhaliom noson gaws a gwin ar gyfer Dydd Sant Ffolant.

Mae fy swydd yn golygu mod i’n goruchwylio, rheoli’r staff o ddydd i ddydd mewn gwirionedd ond rydw i hefyd yn gweithio’n ymarferol os oes angen.

Cyn Gorwel Newydd roeddwn yn weithiwr cymorth iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned, gan gefnogi’r nyrsys ardal.

Mae wir yn rhoi boddhad a’r prif beth yw nad oes un diwrnod yr un fath â’r llall. Nid yw fel meddwl bod yn rhaid i mi fynd i’r gwaith heddiw - yn syml dydych chi ddim yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd o ddydd i ddydd.

Nid oes unrhyw un o fy nheulu wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol ond roeddwn yn arfer gofalu am fy nain a fy nhaid ac roeddwn yn treulio llawer o amser yn gofalu amdanynt, roeddwn yn mwynhau hynny ac yn teimlo ei fod yn ddiddorol iawn."

"Fe fyddwn i’n dweud ewch amdani – mae'n rhoi llawer o foddhad ac mae'n hyblyg. Fe allwch weithio o amgylch y teulu, mae'n bosibl fod gennych ymrwymiadau eraill yn ymwneud â’ch bywyd teuluol y gallwch weithio o’u hamgylch. Y manteision yw'r hyfforddiant, y dilyniant. Drwy weithio ym maes gofal cymdeithasol fe allwch fynd yr holl ffordd pe byddech yn dymuno gwneud hynny."

"Mae gen i deulu ifanc ac mae wedi gweithio’n dda gan mod i wedi gallu gweithio o’u hamgylch ac felly mae wedi gweithio’n dda iawn.

Rydw i’n hapus gyda’r hyn rydw i’n ei wneud, yn ennill profiad, ond fe hoffwn i fynd ymhellach yn y dyfodol.

Rydych chi’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, yn eu cefnogi gyda thasgau dyddiol, creu annibyniaeth a’u hannog i wneud yr hyn y gallant ei wneud eu hunain. Mae llawer o’r bobl rydw i’n gweithio gyda nhw yn awyddus i ymgysylltu.

Fe ges i sioc mewn gwirionedd pan ges i’r swydd hon, ond rydw i mor ddiolchgar am y cyfle y mae Sir Ddinbych wedi ei roi i mi, gan allu datblygu."


Stori Kira


"Ar ôl gadael yr ysgol, nes i astudio health and social care Level 3 yn coleg. Efo’r cwrs roeddwn i’n gorfod neud placement a nes i ddod i Gysgod y Gaer am dri neu bedwar mis i neud care. O’n i’n lyfio fo. Wedyn wnaeth Covid hitio ac roeddwn i’n gorfod stopio.

Wedyn nes i decidio fy mod i am fynd i university ym Mangor ond wnaeth hwnna ddim mynd i plan - do’n i ddim yn hoffi’r cwrs, felly nes i gysylltu gyda Chysgod y Gaer a gofyn petawn ni’n cael dod i weithio yma a dyma le dw i wedi bod am yr wyth mis diwethaf."

Be di dy rol di yng Nghysgod y Gaer?

"Care assistant. Dw i’n edrych ar ol bobl ac yn helpu nhw hefo pethau fel personal care dy’n nhw ddim yn gallu gwneud dim mwy a promotio independence nhw.Dw i yma i gynnig cymorth iddyn nhw gydag unrhyw beth sydd ei angen.

Dw i wrth fy modd yn siarad gyda’r preswylwyr ac yn dod i wybod am eu gorffennol, dod i nabod eu teuluoedd a dwi wrth fy modd pan fo teuluoedd yn dod i mewn a thalu compliment i chi am eich gwaith ac yn eich gwerthfawrogi. Mae hynny’n cynnig gymaint o hyder personol."

Pa fath o ymateb wyt ti'n gael?

"Maen nhw’n ddiolchgar, maen nhw’n hapus iawn ar y cyfan. MI faswn i wrth fy modd yn parhau gyda’r swydd fel cynorthwyydd gofal, ond gawn ni weld."

Be fasa dy gyngor di i unrhyw un fyddai'n dod i mewn i swydd gofal cymdeithasol?

"Neud o! Ewch amdani! Mae’n waith amazing ac mae’n rewardable. Faswn i ddim yn newid dim."


Stori Les


"Sawl blwyddyn yn ôl fe ddaeth fy mam yng nghyfraith yn eithaf gwael ac ar y pryd doeddwn i ddim yn gweithio a fi oedd y prif ofalwr ar ei chyfer ac ar ddiwedd hynny bu iddi wella’n llwyr mewn gwirionedd. Ac er mor anodd oedd gofalu am aelod o’r teulu, roedd yn rhywbeth wnes i ei fwynhau yn fawr mewn gwirionedd ac fe feddyliais y gallwn i edrych ar wneud hyn ar sail fwy parhaol. Ac felly o hynny ymlaen fe ges i swydd ym maes gofal. Rydw i wedi gwneud ychydig o waith adfer seiciatrig ac yna fe ddes i weithio mewn cartref gofal. Rydw i wedi bod yma ac wedi bod wrth fy modd fyth ers hynny. Fe fydden i’n dweud wrth unrhyw un a oedd yn ystyried hynny os ydych chi eisiau gweithio mewn amgylchedd sydd gymaint fel cartref caredig a gofalgar yna ewch amdani!

Mae pawb sy’n gweithio yma o natur ofalgar ac mae’r bobl rydym yn eu cefnogi angen cymorth o dro i dro. Yn yr holl swyddi rydw i wedi eu cael, dydw i erioed wedi cael swydd lle rydw i’n derbyn diolch yn ddyddiol gan bawb rydw i wedi bod mewn cysylltiad â nhw, i ddweud “diolch am hynny”. Ac wedyn, rydw i’n cael fy nhalu am wneud hyn ac mae pobl yn diolch i mi am wneud fy swydd. Mae’n siŵr mai dyma’r swydd sydd wedi rhoi’r boddhad mwyaf i mi o’r swyddi rydw i wedi eu cael. Dydw i erioed wedi cael diwrnod pan rydw i wedi codi yn y bore a meddwl - mae’n rhaid i mi fynd i’r gwaith heddiw, beth fydd yn fy wynebu heddiw – rydych yn codi yn y bore, rydych yn gwneud eich hun yn barod i ddod i’r gwaith ac rydw i’n cael hwyl bob dydd. Rydw i wastad wedi bod â fy mantra bach fy hun – gyda phwy bynnag rydw i’n gweithio, pwy bynnag rydw i’n dod i gysylltiad â nhw ar y diwrnod hwnnw – fe fyddant yn gwenu a chwerthin o leiaf unwaith. Yn ystod y blynyddoedd rydw i wedi bod yn gwneud y swydd, dydw i erioed wedi methu â gwneud hynny. Mae’n wych.

Mae yna bobl nad oes ganddynt deulu fel y cyfryw, mae ganddynt ffrindiau na allant ddod yma bob tro, alla i ddim dweud y byddwn i yn eu cymryd o dan fy adain, fe fyddent hwy yn fy nghymryd i o dan eu hadain. Ni yw eu hunig gyswllt, felly pam na fyddech chi’n dod i mewn gyda gwên ar eich wyneb a siarad gyda nhw. Ac rydw i’n siarad gyda nhw fel ffrindiau, yn amlwg gyda pharch gan fod yna wahaniaeth oed ond mae’n hyfryd siarad gyda nhw. Mae’n hyfryd eu gweld yn chwerthin ac rydw i’n meddwl: beth allwn ni siarad amdano heddiw?

Dydw i ddim yn mynd i symud o fy swydd, dyma fy swydd i am weddill fy nyddiau, felly rydw i’n barod amdani!

Rydw i'n chwerthin bob dydd. Os yw rhywun eisiau swydd lle gallant fwynhau eu hunain, gwneud gwahaniaeth i bobl a chael tâl, yna ewch i faes gofal cymdeithasol. Allwch chi ddim curo hyn."


Stori Sheila


"Rydw i wastad wedi gwneud y math yma o waith. Rydw i wedi gweithio gyda phobl â salwch meddwl – rydw i wedi gwneud hynny am beth amser. Rydw i hefyd wedi gweithio gyda phlant meithrin, yna roeddwn i’n ddi-waith am rai misoedd gan fod y feithrinfa wedi penderfynu cau.

Fe ges i swydd mewn ysgol fel dynes cinio ac yna glanhau a dywedodd rhywun eu bod angen staff yn Nolwen. Felly fe ddes draw i Ddolwen a dechreuais fel gweithiwr cartref yn glanhau a helpu yn y gegin pan oeddent yn brin o staff. Roeddwn eisiau bod yn ofalwr ond roeddwn yn gwybod fod rhaid i mi wneud fy NVQ. Dydw i ddim yn dda iawn gyda gwaith papur – rydw i’n cynhyrfu ond roeddwn i’n benderfynol o wneud fy NVQ gan fy mod i’n gwybod fy mod ei angen.

Roeddwn yn teimlo’n falch iawn ohonof fy hun ac fe lwyddais i wneud fy NVQ. Roedd gen i ddwy ddynes hyfryd a helpodd fi drwy hyn. Roeddent yno ac yn darparu cefnogaeth pan oeddwn i eu hangen. Fe ddes i faes gofal wedyn a dydw i ddim wedi edrych yn ôl o gwbl. Rydw i wedi bod ym maes gofal ers tua 10 mlynedd os nad ychydig yn fwy na hynny.

Rydw i wrth fy modd. Rydw i’n credu ei bod yn swydd wych. Mae hefyd yn rhywbeth gwerth chweil i’w wneud. Ac mae’n fraint gwybod y gallech chi fod wedi helpu rhywun. Rydych chi’n cael eithaf tipyn ohono. Mae yna ddyddiau pan rydych chi’n cael dyddiau trist. Yn drist iawn mae rhai pobl yn dod yn wael iawn ac fe allai fod yna rywun sy’n gorfod mynd i gartref arall gan fod eu hanghenion yn newid, ac felly mae angen mwy o ofal arnynt eto. Rydych chi'n dod yn agos iawn atynt – allwch chi wneud dim yng nghylch hynny oherwydd yn y pendraw maent fel teulu i chi. Os ydych chi’n dod i’r gwaith rydych chi’n eu trin fel y byddech yn trin eich mam a’ch tad eich hun neu eich modrybedd.

Fe fydden i’n dweud dewch i mewn, rhowch gynnig ar hyn i weld sut rydych yn ei hoffi, ond rydw i’n siŵr pan fyddwch chi wedi bod yma rai dyddiau y byddwch yn dod i hoffi hyn yn fawr. Mae’n lle mor gynnes a chyfeillgar. Rydym i gyd yn gweithio gyda’n gilydd ac mae yna ddyddiau pan fyddwch yn drist, yn arbennig os ydych chi wedi bod yn gofalu am gleient penodol a hwythau’n dod yn wael ac mae rhai yn symud i leoedd eraill o ganlyniad i’w hanghenion. Ond rydym yn gweithio gyda’n gilydd fel tîm, mae yna wastad rywun i siarad gyda nhw - staff eraill neu’r rheolwr."