Absenoldeb a phresenoldeb (ysgolion)

Gellir gofyn am amser i ffwrdd ar gyfer digwyddiadau cynlluniedig a heb eu cynllunio, fel salwch a materion busnes, teuluol neu bersonol, i fynd ar wyliau neu i ymgymryd â dyletswyddau cyhoeddus. Mae’n rhaid i’r rheolwr atebol edrych ar amgylchiadau pob cais yn unigol ac yn ôl ei deilyngdod.

Polisi presenoldeb yn y gwaith (ysgolion) (PDF, 2.04MB)

Canllawiau i benaethiaid

Mae Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (gwefan allanol), yn darparu model i gynorthwyo penaethiaid a chyrff llywodraethu i benderfynu ar geisiadau am amser i ffwrdd yn unol â rhwymedigaethau cyfreithiol, cytundebol a moesol.

Mae’r canllaw yn berthnasol i:

  • holl weithwyr yr ysgol, gan gynnwys y pennaeth;
  • staff a gyflogir yn ganolog gan yr awdurdod lleol ac sy’n destun Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol;
  • staff a gyflogir mewn unedau neu ganolfannau sy’n gysylltiedig ag ysgol;
  • staff peripatetig a gyflogir yn ganolog gan yr awdurdod lleol ac wedi eu cynnwys yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.

Nid yw’r canllaw yn berthnasol i:

  • staff a gyflogir gan Wasanaeth Contract neu Wasanaethau Arlwyo Cyngor Sir Ddinbych;
  • gweithwyr contractwyr a darparwyr gwasanaeth allanol

Salwch a phresenoldeb

Gwybodaeth a chanllawiau: Absenoldeb am resymau iechyd

Absenoldeb teulu

Manylion llawn absenoldeb teuluol:

Polisi rhieni (PDF 778KB)

Absenoldeb a chyflog mamolaeth ar gyfer athrawon

Mae hawl gan bob athrawes feichiog i gael 52 wythnos oabsenoldeb mamolaeth. Ceir rhagor o wybodaeth am absenoldeb a thâl mamolaeth yn y polisi mamolaeth i athrawon. 

Tâl ac absenoldeb mabwysiadu  

Os ydych chi’n penderfynu mabwysiadu plentyn, mae gennych chi hawl i hyd at 52 wythnos o absenoldeb mabwysiadu.

Absenoldeb Rhiant

Mae rheolau Absenoldeb Rhiant yn nodi bod absenoldeb rhiant ond yn berthnasol i blant sydd wedi eu geni ar ôl 15 Rhagfyr 1999, sef y dyddiad y daeth y rheolau i rym.

Nid oes yn rhaid talu gweithiwr am absenoldeb rhiant. 

Mwy am absenoldeb rhiant

Absenoldeb tadolaeth

Gweithiwr sy’n gyfrifol am fagu'r plentyn, gan gynnwys y tad biolegol, gŵr neu bartner y fam (gan gynnwys cyplau o'r un rhyw).

Absenoldeb Rhiant a Rennir

Mae Absenoldeb Rhiant a Rennir (SPL) yn galluogi rhieni cymwys i ddewis sut i rannu gofal eu plentyn / plant yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl geni neu fabwysiadu ar gyfer y rhai sydd i'w geni neu eu lleoli i'w mabwysiadu ar neu ar ôl 5 Ebrill 2015. Y pwrpas yw rhoi mwy o hyblygrwydd i rieni wrth ystyried sut i ofalu amdanyn nhw, a chreu perthynas â'u plentyn.

Caniatâd i fod yn absennol heb gyflog

Bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen gais i ofyn am ganiatâd i fod yn absennol heb gyflog. 

Ffurflen Gais Caniatâd i fod yn Absennol heb Gyflog (MS Word, 47KB)

Iechyd meddwl

Mae’r polisi, templedi a dogfennau canllaw isod yn adnoddau defnyddiol i reolwyr a staff i gefnogi iechyd meddwl.

Polisi cefnogi Iechyd Meddwl yn y Gweithle (PDF, 436KB)