Beth ddylwn i wneud gydag e-sigaréts?

Gall e-sigaréts gynnwys batris a POPs (llygryddion organig parhaus). Gallent gael eu hailgylchu, ond gan eu bod nhw’n cynnwys batris, ni ddylid eu rhoi yn eich bin ailgylchu cymysg glas na'r sachau ailgylchu clir.

Rhaid peidio â rhoi e-sigaréts o unrhyw fath yn unrhyw rai o'ch cynwysyddion gwastraff oherwydd risg o dân yn eich bin chi, ein cerbydau casglu gwastraff ni neu yn y cyfleuster trin gwastraff.

Mae e-sigaréts yn niweidiol i'r amgylchedd ac mae'n rhaid iddynt gael eu hailgylchu gan gwmnïau arbenigol. Mae nifer o fanwerthwyr e-sigaréts yn darparu cyfleusterau ailgylchu am ddim. Ewch â nhw gyda chi pan fyddwch yn mynd i'r lleoliadau hyn, er mwyn cael gwared ohonynt yn ddiogel.

Fel arall, gallent gael eu hailgylchu fel WEEE bychain (cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff) yn eich Parc Ailgylchu agosaf.

Chwiliwch am y lleoliad agosaf y gallwch ailgylchu eich e-sigaréts wedi'u defnyddio yn 'Recycle Your Electicals' (gwefan allanol).