
Rydym wedi sicrhau cyllid o Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU er mwyn cynnig grantiau buddsoddi cyfalaf i adfywio eiddo masnachol canol dinas a threfi Sir Ddinbych.
Mae Grant Eiddo Canol Trefi Sir Ddinbych ar agor i eiddo masnachol sydd wedi’u lleoli yng nghanol un o’r 8 prif dref a dinas yn y sir sydd wedi cynnig prosiect(au) i ddatblygu a gwella eu heiddo a chanol y dref. Mae’n rhaid i eiddo fod o fewn ffiniau canol y dref neu’r ddinas y CDLl, yn un o’r canlynol:
- Corwen
- Dinbych
- Llangollen
- Prestatyn
- Rhuddlan
- Y Rhyl
- Rhuthun
- Llanelwy
Cymhwysedd:
- Bydd dyfarniadau grant i brosiectau unigol wedi’u cyfyngu i £50,000 yr eiddo, gydag isafswm o £5,000.
- Bydd angen 30% o gyllid cyfatebol gan yr ymgeisydd.
- Mae'n grant ôl-weithredol sy'n golygu y byddai'n cael ei ddarparu ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau (felly byddai’n rhaid i chi fod â’r modd ariannol i dalu am y gwaith i ddechrau).
Beth sydd ar gael?
Mae grantiau rhwng £5,000 a £50,000 ar gael i wella neu ddatblygu eiddo masnachol.
Byddai gwaith allanol i flaen yr adeilad yn cael ei ystyried heb yr angen am waith mewnol. Gall hyn gynnwys gwaith sy’n cael ei gyfrif yn angenrheidiol er mwyn cadernid strwythurol a defnydd yr eiddo, yn enwedig pan fo bwriad i newid defnydd. Gall eitemau gynnwys:
- Blaen siopau
- Gwella ffenestri arddangos
- Gwella arwyddion
- Ffenestri a drysau
- Goleuadau allanol
- Toeau a simneiau
- Landeri a phibellau dŵr
- Rendro, glanhau ac atgyweirio cerrig, ail-bwyntio
- Gwaith strwythurol
Byddai gwaith mewnol ond yn gymwys i dderbyn y grant fel rhan o becyn cynhwysfawr o welliannau allanol i’r adeilad.
Hefyd, bydd unrhyw waith i wella effeithlonrwydd ynni’r adeilad (e.e. inswleiddio mwy), yn gymwys, fel rhan o waith ehangach.
Nid yw gwaith i ddarparu neu wella eiddo preswyl yn gymwys ar gyfer y grant hwn.
Pwy all wneud cais?
Gellwch wneud cais os ydych yn berchennog eiddo manwerthu neu fasnachol.
Gellwch hefyd wneud cais os ydych yn lesddeiliad eiddo manwerthu neu fasnachol gydag o leiaf 7 mlynedd ar ôl ar y brydles ar y dyddiad erbyn yr hwn y mae’n rhaid cwblhau’r prosiect, a bod gennych ganiatâd ysgrifenedig eich landlord i’r gwaith arfaethedig.
Beth ddylai’r cynllun ei gyflawni?
Rydym yn disgwyl i bob prosiect allu dangos manteision i ganol y dref, fel:
- Llai o unedau gwag yng nghanol y dref.
- Gwella ansawdd a delwedd yr amgylchedd yn gyffredinol (creu hunaniaeth, ymdeimlad o le a hyder i fusnesau) i annog mwy o bobl i dreulio mwy o amser yng nghanol y dref ac annog mwy o weithgarwch a masnach i gefnogi busnesau lleol.
- Creu cyfleoedd cyflogaeth a busnes newydd.
- Cynaliadwyedd busnesau presennol a busnesau newydd yng nghanol y dref.
Sut i ymgeisio
Os hoffech wneud cais am Grant Canol Trefi, bydd angen i chi gyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb ar–lein.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau i’r gronfa hon yw 31 Rhagfyr 2026.
Rhaid cwblhau prosiectau llwyddiannus erbyn 12 Chwefror 2027, fan bellaf.
Ffurflen Mynegi Diddordeb ar–lein
Ar ôl cyflwyno ffurflen mynegi diddordeb
Ar ôl cyflwyno ffurflen mynegi diddordeb, a phan fydd yr holl feini prawf o’r ffurflen mynegi diddordeb i fod yn gymwys wedi’u bodloni, byddwn yn cysylltu â chi ac yn rhoi ffurflen gais lawn i chi ei llenwi gyda’r dystiolaeth angenrheidiol.
Bydd ceisiadau am grant yn cael eu hasesu gan Swyddogion Datblygu Economaidd a Busnesau Sir Ddinbych, cyn cael eu cymeradwyo gan Banel Ariannu a fydd yn goruchwylio’r broses ac yn dyfarnu’r grant.
Swm cyfyngedig o gyllid sydd ar gael. Os oes gormod o geisiadau i faint o gyllid sydd ar gael bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i’r ymgeiswyr cyntaf i lenwi a dychwelyd ffurflen gais lawn a darparu’r holl dystiolaeth ategol.
Mwy o wybodaeth
Gallwch gysylltu â ni os hoffech fwy o wybodaeth am y Eiddo Canol Trefi.