Marchnad y Frenhines, y Rhyl: Cyfleoedd

Rydym ni’n chwilio am unigolyn i reoli Marchnad y Frenhines – marchnad newydd sbon danlli yn y Rhyl, Sir Ddinbych.

Services and information

Marchnad y Frenhines, Y Rhyl

Cyfle

Rydym yn chwilio am weithredwr i reoli’r datblygiad newydd ym Marchnad y Frenhines y Rhyl, Sir Ddinbych, Gogledd Cymru. Bydd Marchnad y Frenhines yn darparu neuadd amlddefnydd ac yn cynnig casgliad o fwytai artisan, a gofod ar gyfer manwerthu a digwyddiadau.

Mae'r datblygiad yn cynnwys 18 uned unigol, bar dwy ochr a gofod digwyddiadau hyblyg dan do, a gofod awyr agored ar gyfer cynnal digwyddiadau, marchnadoedd neu rywle i eistedd.

Marchnad y Frenhines - Tu mewn

Lleoliad

  • Lleoliad perffaith yng nghanol tref y Rhyl
  • Agos at draeth sydd wedi ennill Gwobr Glan y Môr
  • Y dref sydd â’r boblogaeth fwyaf yn y Sir a’r lefel uchaf o ymwelwyr
  • Maes parcio diogel i dros 500 o gerbydau dros y ffordd
  • Agos at Lwybr 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy’n denu 400,000 o ymwelwyr bob blwyddyn
  • Pum munud ar droed i’r orsaf drên a bws sy’n cysylltu’r dref â gweddill y DU (Caer 30 munud, Lerpwl 1 awr 30 munud, Manceinion llai na 1 awr 45 munud, Llundain llai na 3 awr)

Hoffem glywed gennych chi

Os hoffech chi redeg a rheoli Marchnad y Frenhines neu os oes gennych chi ddiddordeb masnachu ar y safle, cysylltwch â ni.

Marchnad y Frenhines, y Rhyl – Cysylltwch â ni

Cefndir

Caffaelodd y Cyngor nifer o adeiladau adfeiliedig ar safle a oedd wirioneddol angen ei adfywio yng nghanol tref y Rhyl. Arferai’r safle fod yn westy, arcêd, clwb nos a neuadd farchnad, ac rydym wedi datblygu cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer datblygiad defnydd cymysg.

2017: Ymgynghori ar y safle

2019: Caffael yr adeiladau

2021 i 2023: Datblygu'r safle

2023: Agor

Buddsoddiadau hyd yma yn Y Rhyl

Mae prosiectau sylweddol diweddar wedi denu buddsoddiadau sector cyhoeddus a phreifat gwerth miliynau o bunnoedd, gan gynnwys:

  • Adnewyddu Theatr y Pafiliwn a chreu’r Bwyty '1891'
  • Dau westy â brand cenedlaethol
  • Gofod addas i fentrau newydd gydweithio
  • Parc Dŵr SC2 a Ninja Tag
  • Pont y Ddraig a gwelliannau i’r Harbwr
  • Tai a pharc cymunedol Gerddi Heulwen

Buddsoddiadau yn y dyfodol

Mae casgliad o brosiectau newydd yn mynd rhagddynt yn agos i Farchnad y Frenhines yn cynnwys:

Marchnad y Frenhines, y Rhyl