Strategaeth Dai 2016-2021
Datblygwyd Strategaeth Tai Sir Ddinbych o amgylch y weledigaeth fod "Pawb yn cael eu cefnogi gyda balchder i fyw mewn cartrefi sy'n diwallu eu hanghenion, o fewn cymunedau bywiog a chynaliadwy Sir Ddinbych, yn unol â'n huchelgais.
Er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon, dyfeisiwyd y Strategaeth o dan 5 thema, pob un ohonynt yn gysylltiedig â'i gilydd:
- Mwy o gartrefi i fodloni angen a galw lleol
- Creu cyflenwad o gartrefi fforddiadwy
- Cartrefi diogel ac iach
- Cartrefi a chymorth i bobl ddiamddiffyn
- Swyddogaeth Tai wrth Gyflenwi Cymunedau Cynaliadwy
Mae cynyddu'r cyflenwad tai ar draws Cymru yn fater y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i fynd i'r afael ag o ac yn cael ei adlewyrchu yng Nghynllun Corfforaethol Sir Ddinbych â'r flaenoriaeth ‘sicrhau mynediad at dai o ansawdd da’. Mae ymchwil yndangos bod gan Sir Ddinbych, fel gweddill Cymru, brinder o ddatblygiadau adeiladu newydd, tai fforddiadwy, cartrefi ar gyfer pobl hyˆn a chartrefi ar gyfer oedolion diamddiffyn. Nod Sir Ddinbych yw mynd i'r afael â'r diffyg hwn trwy ystod o fesurau.
Dogfennau cysylltiedig