Sialens Ddarllen yr Haf

Sialens Ddarllen yr Haf

Yr haf yma, bydd plant yn gallu ymweld â’u llyfrgell leol yn Sir Ddinbych i ymuno gyda thîm o sêr a’u masgotiaid gwych a chymryd rhan mewn Sialens Ddarllen yr Haf (gwefan allanol) ar y thema o chwarae, chwaraeon, gemau a gweithgaredd corfforol. 'Ar eich marciau, Darllenwch' yw enw’r Sialens eleni ac mae’n rhad ac am ddim i bob plentyn ymuno a chymryd rhan.

Trwy gymryd rhan yn y Sialens, a thrwy gael yr adnoddau dwyiethiog am ddim o’r llyfrgell neu arlein ar wefan y Sialens, fe anogir plant i gadw eu meddyliau a’u cyrff yn weithgar dros wyliau’r haf. Mae’r cymeriadau – wedi eu creu gan yr awdur plant a darlunydd Loretta Shauer – yn llywio trwy gwrs rhwystrau ffuglenol ac yn cofnodi eu darllen wrth fynd, gan ennill gwobrau am ddim gan gynnwys stirceri.

Trwy gymryd rhan yn y Sialens yn eu llyfrgell leol, bydd cyfle i bobl ifanc ddarganfod deunydd darllen newydd, datblygu sgiliau, a darganfod diddordebau newydd.

Bydd hefyd gemau a gweithgareddau crefft ar gael mewn llyfrgelloedd dros y gwyliau haf, gyda manylion i ddod ar sianelau cymdeithasol Llyfrgelloedd Sir Ddinbych.