Cynllun Datblygu Lleol Newydd: Cam y Strategaeth a Ffefrir / cyn i’r cyhoedd ei harchwilio
Cam cyn-adneuo datblygu cynllun yw'r cam ffurfiol cyntaf lle gall y cyhoedd gyflwyno eu sylwadau. Cafwyd ymgynghoriad rhwng 8 Gorffennaf 2019 a 30 Awst 2019. Y dogfennau a oedd ar gael ar gyfer ymgynghori oedd y Drafft y Strategaeth a Ffefrir, yr Arfarniad o Gynaliadwyedd a’r Arfarniad Rheoliadau Cynefinoedd.
CDLl Ddiweddariad Covid-19
Rydym yn gweithio i ddatblygu tystiolaeth dechnegol gefndirol ar gyfer CDLl Newydd Sir Ddinbych, ond mae’r argyfwng Covid-19 presennol yn effeithio ar wneud penderfyniadau, ymgysylltu â’r cyhoedd a gwaith maes, felly bydd yn rhaid i ni adolygu’r amserlen ar gyfer y CDLl Newydd a nodwyd yn ein Cytundeb Darparu.
Byddwn yn adolygu’r Cytundeb Darparu pan fyddwn yn gwybod mwy am y cyfyngiadau sy’n cael eu codi.
Dogfennau cyn i’r cyhoedd archwilio’r Cynllun
Croesawyd yr ymatebion ar:
Safleoedd Posib'
Papurau Cefndir y Strategaeth a Ffefrir / cyn i’r cyhoedd ei harchwilio
Defnyddiwyd y dogfennau hyn i ddatblygu’r Strategaeth a Ffefrir ac maent yn cael eu darparu er gwybodaeth.
Tystiolaeth Gefndir
Mae’r dogfennau hyn yn ffurfio’r sail dystiolaeth ar gyfer y Strategaeth a Ffefrir ac maent yn cael eu darparu er gwybodaeth.
Beth nesaf?
Bydd yr holl ymatebion yn cael eu hystyried a byddant yn dylanwadu ar ddatblygiad y ‘CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd’. Mae’r CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd yn ddrafft llawn o’r Cynllun Datblygu Lleol a bydd yn cynnwys yr holl bolisïau lleol a dyraniadau am safleoedd.
Mae disgwyl i’r CDLl i’w archwilio gael ei gyhoeddi i’r cyhoedd ymgynghori arno yn ngwanwyn 2020.
Mae gwybodaeth am y camau wedyn i’w gweld dan y pennawd.