Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.
Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.
Cuddio
Gwybodaeth am y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Mae Sir Ddinbych yn lle gwych i fyw a gweithio. Gallwch ganfod mwy am ein Sir a'r weledigaeth, gwerthoedd ac egwyddorion sy'n sail i bopeth yr ydym yn ei wneud fel sefydliad.
Mae Sir Ddinbych yn le modern, hyblyg a chydweithredol i weithio.
Gallwch wybod popeth sydd gan Sir Ddinbych i'w gynnig.
Ein Gweledigaeth, Gwerthoedd ac Egwyddorion.
Mae Sir Ddinbych yn le modern, hyblyg a chydweithredol i weithio, sy'n gallu cynnig ystod o gyfleoedd swyddi a buddion i weithwyr sydd naill ai'n newydd i'r gweithle, yn weithiwr profiadol neu'n riant/gofalwr. Mae rhai o'r manteision hyn yn cynnwys:
Fel cyflogwr, rydym yn canolbwyntio ar gyfathrebu, cydraddoldeb a pholisïau cyfeillgar i bobl. Rydym yn chwilio am bobl sydd nid yn unig yn rhannu ein gweledigaeth a gwerthoedd ond y sawl sy'n dymuno newid bywydau pobl a gwella ein cymunedau gwerthfawr er gwell. Gyda Chyngor Sir Ddinbych, mae gan bawb rôl i'w chwarae i wneud Sir Ddinbych y gorau y gall fod.
Felly, os ydych yn unigolyn sy'n meddwl y gallant wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, yn teimlo’n angerddol wrth wneud hynny ac eisiau gwneud y swydd orau bosibl yna dyma'r lle i chi.
Mae'n amser cyffrous i fod yn rhan o Gyngor Sir Ddinbych a byddwn bob amser yn rhoi'r gefnogaeth a'r anogaeth sydd ei angen arnoch i lwyddo a gwneud preswylwyr Sir Ddinbych yn falch.
Cael gwybod mwy am Gyngor Sir Ddinbych.
Gyda Chyngor Sir Ddinbych rydych yn cael eich annog i gyflawni eich llawn botensial. Mae gweithwyr yn cael eu cefnogi'n llawn yn eu rolau gyda chyfarfodydd un i un rheolaidd gyda'u rheolwyr atebol, mynediad i blatfform e-ddysgu a mynediad i amrywiaeth o gyrsiau hyfforddiant a chymwysterau sy'n gysylltiedig â'r swydd. Mae datblygu gyrfa yn rhywbeth sy'n cael ei annog yn gadarnhaol yn Sir Ddinbych ac mae datblygu ein talent yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i ni, fel cyflogwr.
Cael gwybod mwy am ddysgu a datblygu.
Wrth weithio gyda Sir Ddinbych, byddwch yn gweithio gyda phobl angerddol sy'n ymfalchio yn yr hyn maent yn ei wneud i'r sir fendigedig hon. Mae gweithwyr yn borth i ddatblygu ein cymunedau cryf a gwydn, datblygu tirluniau hardd a darparu addysg o safon ardderchog i blant yn y sir.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gweithle sy’n gwerthfawrogi rhieni a gofalwyr. Mae gennym nifer o arferion a pholisïau gweithio hyblyg, gan gynnwys gweithio hyblyg, mamolaeth, tadolaeth ac absenoldeb rhiant sy'n gwneud Sir Ddinbych yn le gwych i weithio.
Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg fel gweithio hyblyg/hybrid, oriau rhan amser, oriau byrrach.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnwys buddion gweithlu amrywiol ac wedi ymrwymo i ddarparu gweithle cynhwysol i holl weithwyr. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gwerthoedd a'n hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws y sefydliad.
Rydym yn annog pobl gyda nodwedd a ddiogelir yn gadarnhaol i weithio i Sir Ddinbych beth bynnag eu hoedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil neu nodweddion beichiogrwydd a mamolaeth.
Rydym wedi ymrwymo i'r Cynllun Gwarantu Cyfweliad Hyderus o ran Anabledd, sy'n sicrhau cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sydd ag anabledd ac yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol. Rydym hefyd yn falch i gynnal Gwobr Aur Cyfamod y Lluoedd Arfog.
Mae amgylchedd gwaith cadarnhaol ble mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn flaenoriaeth uchel i Sir Ddinbych. Mae ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr (Vivup) yn wasanaeth cyfrinachol, diduedd am ddim sy’n cynnig cyngor ar unrhyw fater 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae gennym hefyd Adran Iechyd Galwedigaethol ar y safle ac yn darparu talebau gofal llygad.
Chwiliwch ac ymgeisiwch ar-lein ar gyfer swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd.
Gallwch wybod mwy am ein Cynllun Corfforaethol.
Gallwch weld ein strwythur Uwch Dîm Arwain (UDA) presennol.
Browser does not support script.