Gwerthusiadau perfformiad (ysgolion)

Mae rheoli perfformiad yn rhoi cyfle i weithwyr gael sgwrs gynhyrchiol wedi ei strwythuro gyda rheolwr am eu hanghenion perfformiad a datblygiad.

Prif nod yr adolygiad datblygiad perfformiad yw datblygu’r gweithiwr drwy ddarparu amgylchedd cefnogol sy’n caniatáu gweithwyr i ragori yn eu rolau.

Arfarniadau

Cewch gyfle i drafod eich gyrfa a’ch datblygiad personol gyda’ch rheolwr llinell yn eich arfarniad blynyddol

Bydd y drafodaeth yn edrych ar eich perfformiad a’ch cyfraniad unigol, eich anghenion hyfforddiant a datblygiad ac yn rhoi cyfle i chi sicrhau fod eich disgrifiad swydd yn adlewyrchu’ch dyletswyddau’n gywir.

Byddwch yn trafod eich cryfderau ac yn gosod disgwyliadau ar gyfer y dyfodol ar y cyd ac yn nodi blaenoriaethau hyfforddiant a datblygu.

Beth bynnag yw’ch rôl gyda Chyngor Sir Ddinbych, gallwch ddylanwadu eich llwybr gyrfa eich hun yn unol â’ch gallu a’ch dyheadau. Y bwriad yw datblygu’n gweithwyr fel y gallwch chi a’r cyngor barhau i ffynnu.

Dogfennau cysylltiedig

Cyfarfodydd Unigol

Ffordd dda i reolwyr ddatblygu perfformiad yw cynnal cyfarfodydd unigol rheolaidd gyda gweithwyr er mwyn adolygu cynnydd yn erbyn eu hamcanion perfformiad a’u cynllun datblygu.

Ffurflen Un-i'r-un (Ysgolion yn unig) (MS Word, 23KB)