Trwyddedau parcio glan môr

Os ydych chi’n defnyddio meysydd parcio ger y traeth yn rheolaidd, gallai prynu trwydded barcio arbed arian i chi.

Sut ydw i’n defnyddio’r drwydded barcio hon?

Fe gewch chi ddefnyddio’r drwydded barcio glan môr neu arhosiad hir yn y meysydd parcio hyn:

Os ydych chi’n dangos eich trwydded barcio’n glir yn eich cerbyd, ni fydd angen i chi brynu tocynnau talu ac arddangos i barcio yn y meysydd parcio hyn.

Sut ydw i’n gwneud cais am drwydded barcio?

Gwneud cais am drwydded barcio

Os ydych chi’n 60 oed neu’n hŷn, ac yn byw yn Sir Ddinbych, bydd y ffi am eich trwydded glan môr yn is.

Gallwch brynu trwyddedau prisiau gostyngedig i feysydd parcio yn ein Siopau Un Alwad. Gall cwsmeriaid sy’n adnewyddu trwydded pris gostyngedig hefyd ei phrynu drwy ffonio Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706000.

Pan fyddwch chi’n gwneud eich cais cyntaf am drwydded ar gyfradd is, bydd arnom ni angen copi o’ch dogfen cofrestru cerbyd yn ogystal â chopi o un o’r canlynol:

  • trwydded yrru
  • tystysgrif geni (a phrawf o’ch preswyliaeth e.e. bil gwasanaeth gyda’ch cyfeiriad arno)
  • pasbort (a phrawf o’ch preswyliaeth)
  • hawl gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i bensiwn ar ôl ymddeol

Faint mae’n gostio?

Mae trwyddedau parcio glan môr yn costio £80 y drwydded y flwyddyn. Mae’n costio £5 i adnewyddu trwydded wedi ei dwyn neu ei cholli. 

Os ydych chi’n 60 oed neu’n hŷn codir ffi is arnoch chi, sef £50.

Petaech chi’n newid eich cerbyd mae’n rhaid i chi anfon eich trwydded yn ôl atom ni ac fe wnawn ni roi un newydd i chi. Ni chodir tâl am hyn.