Enw gweithgarwch y prosiect | Lleoliad | Disgrifiad |
Y Pedair Priffordd Fawr (Cyngor Sir Ddinbych) |
Llangollen |
Gwelliannau i Bedair Priffordd Fawr Llangollen: Camlas Llangollen, hen Reilffordd Rhiwabon i’r Bermo, yr Afon Dyfrdwy a’r A5 Ffordd Caergybi. Gan gynnwys gwella hygyrchedd, dehongliad ac arwyddion. |
Plas Newydd (Cyngor Sir Ddinbych) |
Llangollen |
Gwella profiad ymwelwyr, gan gynnwys gwneud gwelliannau i’r tir. |
Wenffrwd (Cyngor Sir Ddinbych) |
Llangollen |
Gwella cysylltiadau rhwng y dref a Gwarchodfa Natur Wenffrwd a’r Ganolfan Iechyd a’r gamlas, yn ogystal â gwneud gwelliannau i lwybrau cerdded a beicio o fewn y Warchodfa. |
Rhaeadr y Bedol (Cyngor Sir Ddinbych) |
Llantysilio |
Gwella’r seilwaith twristiaid yn Rhaeadr y Bedol. |
Canopi Platfform Rheilffordd (Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen) |
Corwen |
Gosod canopi, y gydran fwyaf gweladwy, ar blatfform gorsaf Corwen. |
Seilwaith Canol y Dref (Cyngor Sir Ddinbych a Cadwyn Adfywio) |
Corwen |
|
Maes Parcio Lôn Las (Cyngor Sir Ddinbych) |
Corwen |
Gwneud gwelliannau i’r maes parcio, gan gynnwys mannau gwefru Cerbydau Trydan, adnewyddu’r cyfleusterau cyhoeddus a gwell arwyddion. |
Teithio Llesol Corwen i Gynwyd – Cam 2 (Cyngor Sir Ddinbych) |
Cynwyd – Cam 2 |
Cam 2 o lwybr teithio llesol (cerdded a beicio), o Gynwyd i’r A5. |