
Nantclwyd y Dre yw’r ennillwyr o’r wobr Trysor Cudd Visit Wales 2017 a 2018.
Diogelu Cymru
Mae Nantclwyd y Dre ar gau ar hyn o bryd hyd nes y rhoddir rhybudd pellach.
Cysylltu â ni
Stryd y Castell
Rhuthun
LL15 1DP
Ebost: treftadaeth@sirddinbych.gov.uk
Ffôn: 01824 706868
Cyfryngau cymdeithasol
Manylion am Nantclwyd y Dre
Dewch ar daith drwy saith oes Nantclwyd y Dre, plasty trefol ffrâm bren dyddiedig hynaf yn Cymru.
Adeiladwyd y tŷ gwreiddiol yn 1435 ond mae wedi ei estyn a’i uwchraddio sawl gwaith wedi hynny.
Mae Nantclwyd y Dre wedi ei adfer yn hyfryd fel bod modd i ni gael cipolwg ar fywydau’r preswylwyr gwahanol ac ar ffasiwn y blynyddoedd a fu.
Mae modd i ymwelwyr weld ystlumod pedol lleiaf yn yr atig trwy'r 'Camera Ystlumod', cymryd rhan mewn cwis a defnyddio sgriniau rhyngweithiol i ddysgu mwy am y tŷ a'i drigolion.
Dewch i ymweld â'r Ardd Arglwyddi sydd wedi hadfer yn llawn , mae mynediad i'r Ardd Arglwyddi wedi'i gynnwys yn y pris mynediad i'r tŷ.
Prisiau
- Oedolyn: £7.00
- Plant 5 - 16 oed: £6.00
- Plant dan 5 oed: Am ddim
- Teulu (4 person o leiaf 1 plentyn): £20.00
- Pobl hŷn (60 oed +): £6.00
- Myfyrwyr: £6.00
- Grwpiau o 15+ person: £3.00 y pen
- Gofalwr gydag ymwelwr anabl: Am ddim
- Clwb Archeolegwyr Ifanc: Am ddim
- Arweinlyfr: £2.00
- Taith Rhyngweithiol Ap: £2.00
Llogi man cyfarfod hwn
Gallwch logi ystafelloedd parlwr Nantclwyd y Dre ar gyfer digwyddiadau, partion a cyfarfodydd. Bydd angen i chi drefnu eich arlwyaeth eich hun a gallwch ddefnyddio ein cegin a’n hoergell. Mae gan y lleoliad hwn le ar gyfer hyd at 60 o westeion.
- Yn ystod amseroedd ymweld cyhoeddus: £25 yr awr
- Y tu allan i amseroedd ymweld cyhoeddus: £25 yr awr + ffi untro o £45
Map o'r lleoliad
Sgipiwch y map gweladwy.