Fframwaith Arweinyddiaeth

Mae ein fframwaith arweinyddiaeth yn cwmpasu agweddau ac ymddygiadau, sgiliau rheoli a chyfrifoldeb i greu diwylliant a galluogrwydd arweinyddol ar y cyd.
Ein gweledigaeth yw cael arweinyddion unigol sy'n gallu bod yn esiampl i eraill, sy'n arddangos y math o agweddau ac ymddygiadau arweinyddol sydd wedi eu nodi gennym. Mae'r rhain yn bobl yr ydym yn ymddiried ynddynt ac sy’n creu diwylliant o ymddiriedaeth, sy'n gweithio gyda'i gilydd i gyflawni canlyniadau, ac sy'n dysgu gan y naill a'r llall er mwyn cyflawni'r cyfrifoldebau rheoli a rennir gennym.
Maent yn bobl sy'n atebol ac yn cymryd cyfrifoldeb dros ddatblygu a gwella eu hunain.
Yr wyth ymddygiad arweinyddol a nodir yn y fframwaith yw:
Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth
Mae'r ymddygiad craidd hwn yn hanfodol er mwyn i unigolyn ddatblygu a gwella. Bydd yn helpu arweinydd i osgoi gwneud yr un camgymeriadau, gan greu agwedd gadarnhaol a hyrwyddo ymddygiadau sy'n croesawu dysgu a mwy o hunanymwybyddiaeth.
Mwy o wybodaeth am dysgu a hunan-ymwybyddiaeth.
Datblygu cydweithio a phartneriaethau
Bydd arweinwyr effeithiol yn gwneud popeth o fewn eu gallu i feithrin mwy o ymddiriedaeth a ffydd er mwyn annog pobl i beidio â gweithio ar eu pennau’u hunain ac i weld y gwasanaeth cyhoeddus fel un gymuned, ac er mwyn bod yn agored i gydweithio ar fentrau gyda phartneriaid posibl er mwyn darparu gwasanaethau’n fwy effeithiol yn y dyfodol.
Mwy o wybodaeth am datblygu cydweithio a phartneriaethau.
Rhannu arweinyddiaeth
Mae rhyddhau potensial aelodau'r tîm a chreu amgylchedd lle gall aelodau'r tîm a rhanddeiliaid ehangach deimlo'n rhan o'r gydweledigaeth ac uniaethu â honno yn arwain at y perfformiad gorau posibl.
Mwy o wybodaeth am rhannu arweinyddiaeth.
Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd
Bydd canolbwyntio’n llwyr ar ansawdd ac ar y dinesydd ei hun yn golygu y bydd penderfyniadau a'r ffordd y darperir gwasanaethau yn cynnwys y dinesydd ac yn cyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt.
Mwy o wybodaeth am canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd.
Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol
Mae sefydliadau o bob math yn gweithio mewn cyd-destunau cynyddol gymhleth a bydd llwyddiant yn aml yn dibynnu ar ddatblygu partneriaethau a chynghreiriau strategol. Bydd yr heriau wrth wneud hyn yn golygu bod delio â chysylltiadau mewnol ac allanol yn sensitif a chraff yn hollbwysig.
Mwy o wybodaeth am ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol.
Hyrwyddo arloesi a newid
Er mwyn bod yn effeithiol, rhaid i arweinwyr allu gweithredu mewn amgylchedd sy’n ansicr, yn amwys ac yn newid yn barhaus. Mae angen iddynt feithrin creadigrwydd a derbyn elfen o risg er mwyn sicrhau gwelliannau, ac annog yr un feddylfryd ymhlith eu timau.
Mwy o wybodaeth am hyrwyddo arloesi a newid.
Dygnwch a gwydnwch
Mae'n dangos ymrwymiad i ddarparu’r gwasanaethau iawn i ddinasyddion. Er mwyn gwella perfformiad ac ymdopi â phwysau sy’n dod yn sgil newid cythryblus, mae ar arweinwyr angen dygnwch a dyfalbarhad diwyro er mwyn cyflawni amcanion, ynghyd â'r gallu i ddatblygu'r agwedd hon ymhlith gweddill y tîm.
Mwy o wybodaeth am dygnwch a gwydnwch.
Synnwyr strategol
Rhaid i arweinwyr ganolbwyntio ar y darlun hirdymor dyfnach ac ehangach ar ran eu sefydliad a’u tîm. Mae angen i arweinwyr fod ar y blaen i bawb arall a dylent allu craffu ar y gorwel am ddatblygiadau a allai effeithio ar eu cynlluniau a’u blaenoriaethau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Mwy o wybodaeth am synnwyr strategol.