Fframwaith Arweinyddiaeth: Ymwybyddiaeth a Sgiliau Gwleidyddol
Pam mae hyn yn bwysig
Mae sefydliadau o bob math yn gweithio mewn cyd-destunau cynyddol gymhleth a bydd llwyddiant yn aml yn dibynnu ar ddatblygu partneriaethau a chynghreiriau strategol. Bydd yr heriau wrth wneud hyn yn golygu bod delio â chysylltiadau mewnol ac allanol yn sensitif a chraff yn hollbwysig.
Beth yw ystyr hyn
- Craffter gwleidyddol
- Ymwybyddiaeth o sut y gall pobl eraill eich gweld chi a dehongli eich ymddygiad, a sut y byddwch yn defnyddio'r wybodaeth hon i ragweld a deall eu hymddygiad a'u safbwyntiau hwythau
- Sensitifrwydd wrth gynnal trafodaethau a rheoli gwrthdaro
- Gallu i ennyn ymrwymiad pobl heb ddangos awdurdod uniongyrchol
Yr hyn nad yw'n ei olygu
- Dylanwadu ar bobl eraill er mwyn cael mantais unochrog neu fudd personol
- Methu â chyfleu negeseuon anodd neu fod yn gadarn pan fydd galw
I helpu sir ddinbych ddatblygu ein hymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol cynigiwn: