Fframwaith Arweinyddiaeth: Rhannu Arweinyddiaeth

Pam mae hyn yn bwysig

Mae rhyddhau potensial aelodau'r tîm a chreu amgylchedd lle gall aelodau'r tîm a rhanddeiliaid ehangach deimlo'n rhan o'r gydweledigaeth ac uniaethu â honno yn arwain at y perfformiad gorau posibl. Wrth i sefydliadau ddefnyddio technoleg newydd yn gynyddol i ganiatáu gweithio hyblyg ac o 'unrhyw leoliad', rhaid i arweinwyr fod yn barod i gyfathrebu drwy amrywiaeth o sianeli.

Beth yw ystyr hyn

  • Dangos ymddiriedaeth yn y tîm drwy ei rymuso a rhoi digon o gyfle i fentro.
  • Caniatáu digon o gyfle i ddangos blaengaredd.
  • Drwy ddangos dealltwriaeth bod arweinyddiaeth yn aml yn fwy effeithiol wrth ei rhannu.
  • Mae'n annog aelodau’r tîm i ddangos uchelgais ac i ysgwyddo cyfrifoldeb.
  • Mae'n golygu deall a datblygu cymhellion i unigolion ac i'r tîm, gan wybod pa bryd a sut i roi cymorth.

Yr hyn nad yw'n ei olygu

  • Rhoi cyfarwyddyd yn unig a disgwyl i eraill ddilyn.
  • Holi am y cynnydd yn barhaus ac ymyrryd yn ormodol yn y manylion.
  • Hawlio’r holl glod am lwyddiant.
  • Canolbwyntio ar yr hyn y mae pobl eraill yn ei wneud o’i le, methu â dathlu neu gydnabod llwyddiant neu dalentau pobl eraill.

I helpu Sir Ddinbych rannu arweinyddiaeth cynigiwn: