Fframwaith Arweinyddiaeth: Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth
Pam mae hyn yn bwysig
Mae'r ymddygiad craidd hwn yn hanfodol er mwyn i unigolyn ddatblygu a gwella. Bydd yn helpu arweinydd i osgoi gwneud yr un camgymeriadau, gan greu agwedd gadarnhaol a hyrwyddo ymddygiadau sy'n croesawu dysgu a mwy o hunanymwybyddiaeth. Bydd yn fodd o ddatblygu'r ymddygiadau eraill yn llawn, sef ymddygiadau y mae eu hangen er mwyn perfformio i lefel uchel ac i helpu'r unigolyn i gyflawni ei wir botensial fel arweinydd.
Beth yw ystyr hyn
- Capasiti unigolyn i ddysgu o brofiad ac adborth.
- Y gallu i ddatblygu a gwella drwy wneud hunanasesiadau cywir a gwrthrychol.
- Unigolyn yn defnyddio gwybodaeth am ei hun i addasu'r modd y mae'n ymateb i wahanol heriau.
- Neilltuo amser i weithgareddau datblygu sy’n briodol ac yn canolbwyntio ar y pethau iawn.
Yr hyn nad yw'n ei olygu
- Dangos fawr ddim diddordeb mewn hunanasesu neu adborth, neu ddim ond 'ymddangos' bod rhywun yn gwneud hynny.
- O'i gwblhau, ni fydd yr hunanasesiad yn gywir; bydd yn rhy optimistaidd neu ni fydd yn ddigon optimistaidd o ran natur a chynnwys.
- Osgoi neu gytuno'n oddefol i gyfleoedd datblygu gan wneud ychydig yn unig o newidiadau neu ddim newidiadau o gwbl.
- Amharodrwydd i 'berchnogi' camgymeriadau neu i ddysgu ohonynt.
- Ysgwyddo ychydig yn unig neu ddim cyfrifoldeb dros yr effaith ar bobl eraill - ceisio beio ffynonellau allanol neu bobl eraill - gan ddangos diffyg hunanymwybyddiaeth emosiynol a dysgu.
- Canolbwyntio cymaint ar alwadau uniongyrchol y dasg fel nad oes amser neu gyfle i adlewyrchu ar berfformiad.
I helpu Sir Ddinbych ddatblygu ein dysgu a hunan-ymwybyddiaeth cynigiwn: