Fframwaith Arweinyddiaeth: Canolbwyntio ar Ddinasyddion ac Ansawdd

Pam mae hyn yn bwysig

Bydd canolbwyntio'n llwyr ar ansawdd ac ar y dinesydd ei hun yn golygu y bydd penderfyniadau a'r ffordd y darperir gwasanaethau yn cynnwys y dinesydd ac yn cyflawni'r hyn sy’n bwysig iddynt.

Beth yw ystyr hyn

  • Canfod yr hyn sy'n bwysig yn economaidd, yn amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol a defnyddio’r rhain i bennu pa ffyrdd arloesol o weithio a fydd yn arwain at ddarparu gwasanaethau o ansawdd da
  • Casglu'r data a'r dystiolaeth angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniadau doeth ar ran y sefydliad
  • Cydweithio a chroesawu mentrau newydd
  • Addasu ffordd rhywun o weithio er mwyn ateb anghenion dinasyddion
  • Cyfathrebu â dinasyddion mewn ffordd y byddant yn ei deall ac yn gallu uniaethu â hi

Yr hyn nad yw'n ei olygu

  • Bod yn gul eich meddwl yn wyneb dull sy'n canolbwyntio mwy ar werthoedd ac ar y dinesydd
  • Credu bod ansawdd yn gorfod bod ar draul gwerth am arian a darparu'n gyflym
  • Meddu ar ddiffiniad cul o werth e.e. wedi'i seilio ar y gost fewnol isaf
  • Mabwysiadu dull unffurf ar gyfer dinasyddion
  • Yn gyffredinol, methu ag ystyried eu safbwyntiau a'u hanghenion

I helpu Sir Ddinbych ganolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd cynigiwn: