Fframwaith Arweinyddiaeth: Datblygu cydweithio a phartneriaethau
Pam mae hyn yn bwysig
Bydd arweinwyr effeithiol yn gwneud popeth o fewn eu gallu i feithrin mwy o ymddiriedaeth a ffydd er mwyn annog pobl i beidio â gweithio ar eu pennau'u hunain ac i weld y gwasanaeth cyhoeddus fel un gymuned, ac er mwyn bod yn agored i gydweithio ar fentrau gyda phartneriaid posibl er mwyn darparu gwasanaethau'n fwy effeithiol yn y dyfodol.
Beth yw ystyr hyn
- Creu cynghreiriaid a phartneriaethau amrywiol sy'n ychwanegu gwerth, yn hytrach na derbyn yr hyn sy'n gyfarwydd, yn gyfforddus ac eisoes wedi'i sefydlu.
- Mae annog cyfraniad gan aelodau’r tîm a phartneriaid, a sicrhau eu bod yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Yr hyn nad yw’n ei olygu
- Ymddangos eich bod yn cydweithio ond gan ddefnyddio gwybodaeth er mwyn hyrwyddo eich agenda eich hun ar draul gwaith pobl eraill.
- Peidio â datgelu gwybodaeth a allai gael ei rhannu.
- Dibynnu ar gysylltiadau sydd gan rywun eisoes yn hytrach na chreu perthnasau newydd.
- Methu â dysgu gwersi o gydweithio blaenorol.
- Rhoi'r gorau i gyfrannu at waith ar y cyd cyn sicrhau canlyniadau llwyddiannus.
I helpu Sir Ddinbych ddatblygu cydweithio a phartneriaethau cynigiwn: