Fframwaith Arweinyddiaeth: Hyrwyddo Arloesi a Newid
Pam mae hyn yn bwysig
Er mwyn bod yn effeithiol, rhaid i arweinwyr allu gweithredu mewn amgylchedd sy'n ansicr, yn amwys ac yn newid yn barhaus. Mae angen iddynt feithrin creadigrwydd a derbyn elfen o risg er mwyn sicrhau gwelliannau, ac annog yr un feddylfryd ymhlith eu timau. Mae angen i arweinwyr fod yn barod i groesawu a deall manteision defnyddio technolegau hen a newydd er mwyn rheoli a darparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd sy'n gallu addasu i'r amgylchiadau. Mae angen cadw technolegau hŷn ynghyd ag achub ar fanteision ychwanegol yr hyn sy'n 'newydd' fel sy’n briodol.
Beth yw ystyr hyn
- Arwain arloesi a newid drwy’r holl sefydliad ac ar y cyd â sefydliadau partner er mwyn gwella'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu
- Dangos dealltwriaeth ddofn o’r cyfleoedd hirdymor ar gyfer newid, gwella ac atal, a’u perthynas â’r broses o ddarparu gwasanaethau o ansawdd da
- Meithrin syniadau realistig ar gyfer achub ar y cyfleoedd hyn – yn sail i hyn, mae angen bod yn agored ac yn hyblyg yn ddeallusol
- Ysbrydoli pobl eraill i groesawu newid ac i fod yn anturus ac yn greadigol wrth feddwl a chyflawni
Yr hyn nad yw'n ei olygu
- Rhoi cynlluniau ar waith nad ydynt wedi'u hystyried yn llwyr
- Rhaeadru syniadau o'r brig i lawr heb lawer o gyfraniad gan y tîm
- Newid er mwyn newid neu ymwrthod â newid
- Amharodrwydd i herio dulliau neu syniadau sy'n bodoli'n barod
- Ffafrio gweithio mewn amgylchiadau cyfarwydd a chyfforddus
- Parhau i gefnogi camau ‘dros dro’ ymatebol heb dreulio amser yn dadansoddi tueddiadau ehangach
I helpu Sir Ddinbych hyrwyddo arloesi a newid cynigiwn: