Fframwaith Arweinyddiaeth: Dygnwch a Gwydnwch
Pam mae hyn yn bwysig
Mae'n dangos ymrwymiad i ddarparu'r gwasanaethau iawn i ddinasyddion. Er mwyn gwella perfformiad ac ymdopi â phwysau sy'n dod yn sgil newid cythryblus, mae ar arweinwyr angen dygnwch a dyfalbarhad diwyro er mwyn cyflawni amcanion, ynghyd â'r gallu i ddatblygu'r agwedd hon ymhlith gweddill y tîm. Mae'n fodd o rannu amcanion cyffredin a'r pwysau sy'n deillio o ergydion; mae'n golygu nad yw pobl wedi'u hynysu; ac mae'n sicrhau'r defnydd gorau o adnoddau.
Beth yw ystyr hyn
- Y gallu i ganolbwyntio ac o hyd yn gadarnhaol ei agwedd
- Arddangos lefel briodol o hunanhyder yn wyneb amgylchiadau anodd. Mae’n adennill nerth yn gyflym ar ôl ergydion ac yn cynnal ei ysbryd ei hun ac ysbryd y tîm
- Mae'n gosod amcanion anodd ac yn mynd i'r afael â'r rheini yn egnïol, yn gyflym, yn frwdfrydig ac yn benderfynol, gan ysbrydoli eraill i fod yr un mor egnïol
- Yn dangos optimistiaeth realistig wrth ymateb i heriau
Yr hyn nad yw’n ei olygu
- Bwrw ymlaen heb sicrhau bod y tîm a rhanddeiliaid ehangach y tu ôl ichi
- Rhagdybio gan eich bod chi'n gallu ymdopi â phwysau fod pawb arall yn y tîm yn gallu gwneud hynny hefyd
- Bod yn or-ofalus a gochelgar pan ddaw'r arwydd cyntaf bod rhywbeth yn mynd o'i le
- Methu â derbyn neu geisio cymorth
- Gosod dyheadau neu dargedau afrealistig o uchel
- Glynu wrth un feddylfryd
I helpu Sir Ddinbych ddatblygu ein dysgu a hunan-ymwybyddiaeth cynigiwn: