Fframwaith Arweinyddiaeth: Synnwyr Strategol

Pam mae hyn yn bwysig

Rhaid i arweinwyr ganolbwyntio ar y darlun hirdymor dyfnach ac ehangach ar ran eu sefydliad a'u tîm. Mae angen i arweinwyr fod ar y blaen i bawb arall a dylent allu craffu ar y gorwel am ddatblygiadau a allai effeithio ar eu cynlluniau a'u blaenoriaethau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Beth yw ystyr hyn

  • Ymwneud ag eraill i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol gan ystyried goblygiadau hirdymor newid mewn amgylchiadau ar yr un pryd
  • Mae wedi'i wreiddio yn yr angen i gynnal a gwella perfformiad
  • Mae'n galw am allu dadansoddol cryf i bwyso a mesur a gwerthuso effaith bosibl gwahanol newidiadau cymdeithasol, amgylcheddol, gwleidyddol, economaidd a thechnolegol, gan droi'r rhain yn gamau ac yn amcanion ymarferol

Yr hyn nad yw'n ei olygu

  • Ymateb yn sydyn i newidiadau mewn amgylchiadau a allai arwain at newid cyfeiriad yn rhy gyflym a disymwth
  • Myfyrio'n ddeallusol ar bethau nad ydynt yn ymwneud ag anghenion y sefydliad

I helpu Sir Ddinbych ddatblygu ei synnwyr strategol cynigiwn: