Diweddariad gwasanaeth: Casgliadau ailgylchu
9 Ionawr 2026
Mae criwiau y gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu wedi wynebu cryn heriau yn ddiweddar o ganlyniad i’r garw ledled y sir dros y dyddiau diwethaf.
Rydym am sicrhau trigolion y bydd unrhyw gasgliadau ailgylchu a fethwyd ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher yr wythnos hon o ganlyniad i’r eira a'r rhew a achosodd anawsterau i'n criwiau, yn cael eu casglu ar eich diwrnod casglu ailgylchu nesaf.
Bydd unrhyw wastraff ailgylchu ychwanegol a gyflwynir ar eich diwrnod casglu nesaf ar gyfer ailgylchu yn cael ei gasglu.
Rydym yn diolch i holl drigolion y sir am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth tuag at ein criwiau Gwastraff ac Ailgylchu yn ystod y cyfnod tywydd heriol hwn.
Am ragor o wybodaeth am eich diwrnodau casglu Gwastraff ac Ailgylchu ewch i dyddiadau casgliadau bin.
Casgliadau ailgylchu a gwastraff
Ar eich diwrnod casglu arferol, sicrhewch fod eich cynwysyddion yn y man casglu erbyn 6.30am. Gallwn gasglu eich gwastraff unrhyw amser ar y diwrnod hwn hyd at 5pm, felly gadewch eich cynwysyddion allan tan hynny.
Casgliadau gwastraff a fethwyd
Gofynnwn yn garedig i chi beidio â rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd tan ar ôl 5pm gan y bydd rhai criwiau yn parhau i gasglu gwastraff tan yr amser yma. Darganfod mwy am gasgliadau gwastraff a fethwyd.