Archebu bin newydd neu fag
Mae modd archebu bin neu sach newydd ar-lein, dros y ffôn ac yn un o’n Siopau Un Alwad.
Oedi dros dro i ddarparu biniau newydd
Oherwydd prinder staff, mae’n bosibl y bydd yn cymryd hyd at 15 diwrnod i ddarparu biniau newydd. Lle bo’n bosibl, caiff biniau newydd eu darparu ar benwythnosau.
Os ydych chi’n aros am fin du, rhowch eich gwastraff nad oes modd ei ailgylchu mewn bagiau nes byddwch chi’n cael eich bin newydd.
Os ydych chi’n aros am fin glas, rhowch eich eitemau i’w hailgylchu mewn bocsys nes byddwch chi’n cael eich bin newydd.
Byddwn ni’n blaenoriaethu darparu biniau gwyrdd newydd.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu newydd neu amnewid
Mae taliadau ar gyfer rhai cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu newydd neu amnewid.
Rydym ni’n codi tâl am y canlynol:
Atgyweirio bin olwynion sydd wedi'i ddifrodi
Os oes gennych fin olwynion wedi'i ddifrodi, efallai y gallwn ei drwsio. Dysgwch am atgyweiriadau i finiau gwastraff ac ailgylchu sydd wedi'u difrodi.
Sut i archebu cynhwysydd newydd
Gallwch archebu cynhwysydd newydd ar-lein.
Archebu cynhwysydd gwastraff neu ailgylchu newydd ar-lein
Bagiau gwastraff bwyd
Os oes gennych dag melyn, clymwch o i'ch cadi bwyd ac fe adawn ni fwy o fagiau ar eich diwrnod casglu nesaf. Dim ond pan fyddwch wedi rhedeg allan o fagiau y dylech ddefnyddio'r tag. Neu gallwch gysylltu â’r ganolfan gwasanaethau cwsmeriaid drwy ffonio 01824 706000 ac fe adewir rholyn o fagiau i chi ar eich diwrnod casglu.
Gallwch gael bagiau gwastraff bwyd ychwanegol o Siopau Un Alwad y cyngor a restrir isod:
Pris cynwysyddion
Sachau a leiners cadi
Rydym ni’n cadw’r hawl i fonitro'r defnydd a chyfyngu’r gwasanaeth os ceir defnydd gormodol a/neu os yw trigolion yn methu â rhoi eu sbwriel yn y sachau lliw cywir.
Ffioedd cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu
Cynhwysydd | Ffi |
Set biniau tai newydd – ddim ond ar gael i berchnogion neu feddianwyr newydd |
£45 |
Bin glas ar olwynion yn lle'r un presennol (pob maint) |
£25 |
Bin du ar olwynion yn lle'r un presennol (pob maint) |
£25 |
Sach y gellir ei hail ddefnyddio ar gyfer ailgylchu sych iawn |
£0 yn ddibynnol ar argaeledd |
Cadi cegin newydd a chadi gwastraff bwyd ymyl y palmant |
£0 |
Bagiau cadi gwastraff bwyd |
£0 |
Sachau untro (sachau pinc a chlir ar gyfer ailgylchu gweddilliol a sych) |
£0 |
Sach y gellir ei hail ddefnyddio ar gyfer ailgylchu sych iawn |
£0 yn ddibynnol ar argaeledd |
Yn ôl i frig y dudalen
Rhaid i chi gofrestru ar gyfer tanysgrifiad i dderbyn casgliadau gwastraff gardd. Dysgwch fwy am gasgliadau gwastraff gardd.
Ffioedd am gynwysyddion gwastraff gardd
Cynhwysydd | Ffi |
Biniau gwyrdd ar olwynion (pob maint) newydd neu yn lle’r rhai presennol |
£25 |
Tair sach |
£15 |
Sach yn lle’r un bresennol |
£5 yr un |
Yn ôl i frig y dudalen
Pan rydych yn archebu bin ar olwynion arall yn lle'r un presennol am fod y bin wedi ei ddifrodi cymaint fel nad oes modd ei atgyweirio, neu os ydych yn archebu bin mwy/llai, yna mae’n rhaid i’ch hen fin ar olwynion gael ei ddychwelyd pan fyddwn yn dod â’r bin newydd. Os nad yw’r hen fin ar gael pan fyddwn yn dod â'r bin newydd yna fe fydd yna ffi bellach o £10 i'w dalu cyn y gellir darparu'r bin newydd. Ni fydd unrhyw gost os bydd y bin ar goll gan fod ein criw casglu wedi ei ddifrodi a heb allu ei roi yn ôl ger ymyl y palmant.
Yn ôl i frig y dudalen