Brechiadau rhag y ffliw a Covid-19 i ofalwyr di-dâl
Oeddech chi'n gwybod bod gofalwyr di-dâl yn gymwys i gael brechiadau rhag y ffliw a Covid-19 y gaeaf hwn? Brechiad yw un o'r ffyrdd mwyaf diogel a mwyaf effeithiol i'ch atal chi a'r rhai rydych chi'n gofalu amdanynt rhag mynd yn ddifrifol wael.
Os nad ydych wedi cael gwahoddiad i gael eich brechu rhag y ffliw a/neu Covid-19, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i gael eich brechu ar Betsi Cadwaladr wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cadwaladr (gwefan allanol).
Ymgynghoriad: Codau Ymarfer Proffesiynol
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnal ymgynghoriad am Godau Ymarfer Proffesiynol i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol a Chod Ymarfer Proffesiynol i Weithwyr Gofal Cymdeithasol.
Gallwch fynd i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru i ddysgu mwy am yr ymgynghoriad, yn cynnwys sut i rannu eich barn.
Ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru (dolen allanol)