Yr hyn rydym ni eisiau
Dod yn sefydliad Di-garbon Net erbyn 2030, a chyfoethogi, cynnal a gwella ein hasedau naturiol i gefnogi bioamrywiaeth. Mae’n rhaid i ni hefyd liniaru a gweithio gyda chymunedau i ymdopi ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.
Ein nod:
- Darparu ein Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol i ddod yn gyngor ecolegol gadarnhaol a di-garbon net erbyn 2030, gan gynnwys:
- Cynyddu capasiti ynni adnewyddadwy mewn adeiladu y mae'r cyngor yn berchen arnynt ac yn eu gweithredu
- Lleihau allyriadau carbon o’n cadwyn gyflenwi
- Gwrthbwyso allyriadau carbon drwy blannu coed a mesurau eraill
- Cynyddu'r cynefinoedd sydd ar gael ar gyfer peillio a bywyd gwyllt
- Cynyddu dolydd blodau gwyllt brodorol newydd ar draws y sir
- Gwella cyfraddau ailgylchu a lleihau gwastraff drwy:
- Weithredu gwasanaeth gwastraff newydd
- Lleihau'r defnydd o blastig untro mewn ysgolion
- Cefnogi cymunedau i liniaru ac ymdopi ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd drwy:
- Gynyddu rhandiroedd a chyfleoedd i dyfu bwyd yn y gymuned
- Darparu cynlluniau i leihau perygl llifogydd arfordirol a mewndirol. Mae hyn yn cynnwys cymorth ar reoli tir gerllaw dyfrffyrdd
- Annog rheoli rhostiroedd er mwyn lleihau’r perygl o dannau gwyllt, gan weithio gyda pherchnogion tir, ffermwyr, cymunedau a chyrff statudol