Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalgar

Iachach

Yr hyn a ddymunwn

Hyrwyddo diogelwch, gwytnwch a lles cymunedau a phobl o bob oedran, gan ddefnyddio rhwydweithiau cymunedol cryf ac isadeiledd cymdeithasol sy’n galluogi pobl i fyw’n ddiogel, yn hapus ac yn annibynnol, a derbyn cymorth pan mae angen. Mae hynny’n cynnwys hyrwyddo amrywiaeth a chydlyniant ein cymunedau a lleihau anghydraddoldeb ac amddifadedd. Dylai pawb fedru cael mynediad at wasanaethau yn Gymraeg yn naturiol hefyd.

Yr hyn y bwriadwn ei wneud:

  1. Sicrhau bod darpariaeth gofal cymdeithasol y Cyngor o safon uchel, gan gynnwys:
    • Hyrwyddo diwylliant cryf o ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion yn y sir
    • Darparu’r gofal a’r gefnogaeth orau bosib yn rhinwedd ein swyddogaeth Rhiant Corfforaethol
    • Cefnogi pobl ag anghenion dysgu ychwanegol neu gymhleth
    • Gweithio â phartneriaid i wella’r gefnogaeth a gofal seibiant i ofalwyr o bob oed
    • Sicrhau y gall pawb gael mynediad at wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn naturiol ar bob cam yn eu bywydau.
  2. Cefnogi lles, iechyd meddwl a gwytnwch unigolion mewn cymunedau drwy:
    • Sicrhau mynediad at y wybodaeth, cyngor a chymorth iawn drwy ein Hun Pwynt Mynediad, Llywiwr Cymunedol a’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd.
    • Annog cymunedau i fod yn ystyriol o bobl hŷn, yn rhyng-genedlaethol a chynhwysol, gan leihau unigedd ac unigrwydd.*
  3. Hyrwyddo lles personol a chymunedol drwy:
    • Gefnogi gwaith gwirfoddol a phrosiectau gan sefydliadau llawr gwlad i ddatblygu sgiliau cymunedol a phersonol mewn mannau lleol
    • Buddsoddi mewn cynyddu gallu a chefnogi arweinyddiaeth a grwpiau cymunedol, gan gynnwys rhai sy’n helpu â gwasgfeydd costau byw, er enghraifft
    • Datblygu cynlluniau ymgysylltu cymunedol i gynnwys cymunedau a rhoi’r grym iddynt benderfynu ynglŷn ag adfywio lleol
    • Cefnogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn fwy helaeth a dathlu diwylliant Cymru yn y gymuned, gan gynnwys gweithleoedd.
    • Gweithredu gwasanaeth archifau mwy graenus a chynaliadwy i Ogledd Ddwyrain Cymru.
  4. Meithrin cydlyniant cymunedol drwy sicrhau y caiff pobl eu diogelu rhag niwed, camdriniaeth a cham-fanteisio Mae hynny’n cynnwys:
    • Gweithio i leihau cam-drin domestig*
    • Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  5. Dal i gefnogi ac adsefydlu ffoaduriaid drwy’r Cynllun Adsefydlu Byd-eang y Deyrnas Gyfunol, i gefnogi datganiad Cymru fel Cenedl Noddfa.*

* Amcanion Cydraddoldeb.