Sir Ddinbych sy'n dysgu a thyfu
Yr hyn rydym ni eisiau
Cefnogi darpariaeth dysgu a hyfforddi o ansawdd sy’n galluogi pobl o bob oed i gyflawni eu llawn botensial, yn bersonol ac yn broffesiynol.
Ein nod:
- Hyrwyddo darpariaeth dysgu a datblygu ein plant a phobl ifanc drwy:
- Wella’r cymorth a’r cyngor sydd ar gael i rieni
- Cefnogi datblygiad plant y blynyddoedd cynnar
- Gweithio gydag ysgolion a GwE, ein partner gwella ysgolion, i gefnogi darpariaeth safonau addysg uchel sy’n gwaredu rhwystrau i ddysgu ac yn arwain at gyflawniad da
- Cefnogi Ysgolion i ddarparu yn erbyn safonau newydd, megis Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg, y cwricwlwm newydd i Gymru, a’r cod Anghenion Dysgu Ychwanegol*
- Darparu adeiladau a chyfleusterau o ansawdd uchel, gan weithio mewn partneriaeth gyda Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru
- Cefnogi ysgolion i drosglwyddo i fod yn Ysgolion sy’n Canolbwyntio ar Gymunedau, gan ddarparu ystod o wasanaethau a gweithgareddau i helpu i fodloni anghenion disgyblion, eu teuluoedd, a’r gymuned ehangach.
- Gweithio gyda phartneriaid (gan gynnwys colegau a phrifysgolion) i sicrhau fod pobl o bob oedran, gan gynnwys y rhai diamddiffyn a'r rhai dan ein gofal ni, yn gadarn ac yn barod am gyflogaeth, addysg bellach, neu hyfforddiant, gyda chefnogaeth:
- Y cyfleoedd cywir ar gyfer gwaith
- Mynediad at waith gwirfoddol, profiad gwaith a chyfleoedd prentisiaeth o ansawdd uchel*
- Dysgu personol a phroffesiynol (e.e sgiliau bywyd neu 'sgiliau gwyrdd')
- Cynnig allgyrsiol cryf sydd ar gael i bobl ifanc drwy’r ddarpariaeth Gwasanaeth Ieuenctid
* Amcanion cydraddoldeb.