Ynglŷn â'r Cynllun Corfforaethol
Ewch yn syth i:
Croeso i Gynllun Corfforaethol y Cyngor. Mae’r Cynllun hwn yn nodi’r hyn yr hoffem ei gyflawni er budd preswylwyr a chymunedau lleol dros y pum mlynedd nesaf, i gyflawni’r Sir Ddinbych a Garem.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu ein gweithgareddau mewn modd cynaliadwy er budd hirdymor ein cymunedau a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’r Cynllun hwn yn diwallu ein hymrwymiadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Cydraddoldeb. Mae hefyd yn nodi ein prif swyddogaethau perfformiad at ddibenion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Mae’r Cynllun wedi’i ategu gan ein hawydd i weithio fel ‘Un Cyngor’, lle mae ein gwasanaethau amrywiol yn cydweithio yn fwy effeithlon tuag at nodau a rennir. Byddwn yn canolbwyntio ar gamau ataliol sy’n diogelu pobl rhag niwed ac yn mynd i’r afael â’r heriau y mae cymunedau yn eu hwynebu, fel yr Argyfwng Hinsawdd, sicrhau twf economaidd cynaliadwy, hyrwyddo lles, ac ansawdd bywyd. Rydym eisiau gweithio gyda’n preswylwyr, busnesau, partneriaid, a budd-ddeiliaid i gynorthwyo i lunio’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu a sut yr ydym yn eu darparu.
Mae ein huchelgeisiau yma yn mynd y tu hwnt i dymor y cynllun pum mlynedd hwn. Ni allwn wneud y cyfan ar ein pennau ein hunain, felly lle bo modd byddwn yn cydweithio gyda’n cymunedau a’n partneriaid. Rydym eisiau integreiddio ein huchelgeisiau gyda’r amcanion cenedlaethol a rhanbarthol i gyflwyno mwy o fuddion hirdymor i’r sir.
Gobeithiwn y byddwch yn cefnogi ein huchelgeisiau. Os oes gennych chi gwestiwn, neu os hoffech chi ddysgu mwy am ein Cynllun Corfforaethol, mae croeso i chi gysylltu â ni neu ewch i’n gwefan.

Jason McLellan
Arweinydd

Graham H Boase
Prif Weithredwr
Yn ystod haf 2021, gofynnwyd i breswylwyr yn y sir am eu dyheadau hirdymor ar gyfer eu cymunedau. Fe wnaethom ni hyn drwy ein dull ‘Sgwrs y Sir’, cyfres o drafodaethau gweithdy a gynhaliwyd gyda phreswylwyr ar draws chwe ardal Sir Ddinbych (Rhyl, Prestatyn, Elwy, Dinbych, Rhuthun a Dyffryn Dyfrdwy), ac arolwg ar-lein (gyda chopïau papur ar gael ym mhob llyfrgell a Siopau Un Alwad. Yn ogystal, fe wnaethom gyfarfod â phob cyngor ysgol uwchradd. Defnyddiwyd yr holl adborth a gawsom i ddylanwadu ar Asesiad Lles Lleol (gwefan allanol), a luniwyd gyda’n partneriaid ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (gwefan allanol). Mae hyn wedi bod o fudd i ni ddeall y sefyllfa bresennol o ran Lles yn ein sir ac adnabod ymyraethau angenrheidiol i fod o fudd i genedlaethau’r dyfodol.
Ar ôl llunio rhestr hir o addewidion ar gyfer ein Cynllun Corfforaethol, fe wnaethom gychwyn ar ail gam o’n Sgwrs y Sir rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2022, gan ofyn am adborth ar y themâu a nodwyd o’r digwyddiad ymgysylltu cychwynnol a’r Asesiad Lles. Gofynnwyd hefyd am adborth gan gydweithwyr o sefydliadau eraill, yn cynnwys y Gwasanaeth Iechyd, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r trydydd sector. Yn ystod y gwanwyn, cynhaliwyd gweithdai pellach ar gyfer staff Cyngor Sir Ddinbych ar sail thema unigol er mwyn cynllunio’r gweithredoedd y byddem yn eu darparu.
Ar ôl etholiad y Cyngor ym mis Mai a sesiynau cynllunio pellach gyda’r Cabinet a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth newydd, cynhaliwyd y cam terfynol, sef ymgysylltu cyhoeddus a chyfarfodydd gyda grwpiau gwleidyddol ar ddiwedd haf 2022, er mwyn gwirio bod ein haddewidion terfynol yn gwneud synnwyr cyn i’r Cyngor eu mabwysiadu ym mis Hydref.
Yn ôl i frig y dudalen
Fel y disgrifiwyd uchod, mae Asesiad Lles Conwy a Sir Ddinbych (gwefan allanol), sydd yn archwilio data a barn pobl leol trwy lygad Nodau Lles Cymru, wedi ein cefnogi i osod ein hamcanion lles ar gyfer Sir Ddinbych. Mae ein hamcanion felly yn cyfrannu’n uniongyrchol tuag at gyflawni'r nodau cenedlaethol. Mae hyn yn rhoi hyder i ni ein bod yn canolbwyntio'n hadnoddau ar gyflawni'r amcanion cywir a fydd o'r budd mwyaf i'n cymunedau.
Y canlynol yw naw Nod Lles ac Amcanion Cydraddoldeb y Cyngor a fydd yn helpu i ddarparu gwelliant perfformiad parhaus ar draws gwaith y Cyngor.
- Tai o ansawdd yn Sir Ddinbych sydd yn bodloni anghenion pobl
- Sir Ddinbych ffyniannus
- Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalus
- Sir Ddinbych sydd yn dysgu a thyfu
- Sir Ddinbych sydd wedi cysylltu’n well
- Sir Ddinbych mwy gwyrdd
- Sir Ddinbych mwy teg, diogel a chyfartal
- Sir Ddinbych â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cyngor sy’n cael ei gynnal yn dda ac sy’n uchel ei berfformiad
Mae datblygiad cynaliadwy, a defnyddio’r pum ffordd o weithio i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, wedi bod yn ganolog i’r gwaith rydym wedi’i wneud er mwyn adnabod ein hamcanion a datblygu’r gweithredoedd y byddwn ni’n symud ymlaen â nhw i gefnogi pob thema yn y cynllun hwn.
- Hirdymor: Ar ôl dadansoddi tueddiadau data yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol a thrafod dyheadau hirdymor gyda’n preswylwyr, rydym i’n hyderus y bydd y cynllun yma’n darparu manteision hirdymor i’n cymunedau.
- Atal: Mae edrych ar dueddiadau’r dyfodol, yn cynnwys risgiau a chyfleoedd, wedi galluogi i ni adnabod camau ataliol y gallwn eu cymryd rŵan i atal problemau rhag gwaethygu yn y dyfodol.
- Cyfranogi: Mae datblygu ein Cynllun drwy Gyfranogiad wedi bod yn egwyddor allweddol. Yn ogystal ag ymgynghoriad ar-lein, rydym wedi buddsoddi amser sylweddol yn cynnal trafodaethau gyda grwpiau ffocws ar draws y sir, yn cynnwys pob ysgol uwchradd, a gyda staff. Rydym wedi ceisio gwneud y grwpiau ffocws hyn yn gynrychioliadol (gan adlewyrchu oedran, rhyw, statws cymdeithasol, galwedigaethau, grwpiau anodd eu cyrraedd ac ati).
- Cydweithio: Ni ellir cyflawni'r amcanion o fewn un gwasanaeth yn unig ac felly bydd angen cydweithio (y tu mewn a’r tu allan i’r Cyngor). Byddwn yn ffurfio gweithgor cydweithredol ar gyfer pob un o’n naw blaenoriaeth (gan enwebu un uwch swyddog i arwain ar bob maes thema). Bydd y gweithgorau hyn yn cynnwys budd-ddeiliaid allweddol, sydd fwyaf tebygol o fod yn weithwyr proffesiynol ond byddant hefyd yn cynnwys cynrychiolaeth gan ddefnyddwyr gwasanaeth.
- Integreiddio: Rydym wedi alinio ein Cynllun gyda rhaglenni cenedlaethol o waith, megis y Rhaglen Lywodraethu, yn ogystal â gwaith ein partneriaid yn rhanbarthol ac yn lleol. Wrth i ni symud ymlaen â’n gweithgareddau, byddwn yn parhau i werthuso effaith ein gwaith ar nodau ein partneriaid a sefydliadau eraill, a byddwn bob amser yn chwilio am gyfleoedd lle gallwn integreiddio a darparu mwy o fanteision.
Er nad oes rhaid i gyrff cyhoeddus ymgymryd â dadansoddiad ymateb, byddwn yn cynnal yr ymarfer yma gan y bydd yn arwain at well darpariaeth. Bydd hyn yn golygu:
- Ystyried beth sydd eisoes yn cael ei wneud i gefnogi pob amcan
- Ystyried arfer da
- Ystyried 'bylchau' yn narpariaeth y gwasanaeth y dylid mynd i’r afael â nhw
- Ystyried gorgyffwrdd gydag amcanion sefydliadol eraill, a chyfleoedd i integreiddio
- Ystyried cyfleoedd i arloesi (drwy dechnolegau newydd neu ffurfiau eraill)
- Blaenoriaethu dewisiadau ar gyfer camau gweithredu yn ddibynnol ar ddadansoddiad cost a manteision
Caiff camau eu hadolygu gan ein huwch reolwyr, y Cabinet a phwyllgor Craffu. Bydd ein gwerthusiad yn asesu i ba raddau y mae gweithredoedd a nodwyd yn cael eu cyflawni; pa unai ydynt yn darparu’r manteision a ragwelwyd; a pha gamau adfer (os o gwbl) sydd eu hangen. Bydd y trefniadau llywodraethu hyn yn cael eu cyflawni gydag adnoddau presennol.
Bydd manylion ein camau gweithredu wrth iddynt gael eu llunio, yn cynnwys amserlenni a chynnydd, ar gael ar dudalennau gwe Cynllun Corfforaethol a pherfformiad.
Yn ôl i frig y dudalen
Mae’r Cynllun Corfforaethol hwn yn un uchelgeisiol iawn ac mae arno angen swm sylweddol o adnoddau ariannol i lwyddo. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r gweithgareddau eisoes wedi dechrau a’r adnoddau wedi’u nodi er mwyn eu cyflawni. Mae’r enghreifftiau o ymrwymiadau mawr yn cynnwys buddsoddi mewn cynlluniau priffyrdd a chynlluniau llifogydd, adeiladau ysgolion a rhoi ein Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol ar waith.
Ers y Cynllun Corfforaethol diwethaf mae proses gyllidebol gadarn wedi’i sefydlu ynghyd â dull newydd ar gyfer rheoli ein gwariant cyfalaf, a fydd yn sicrhau bod gwasanaethau yn gallu cyflwyno ceisiadau am ragor o gyllid fel rhan o broses flynyddol y gyllideb. Bydd hyn yn gymorth i atal dyrannu cyllid cyn bod angen ac i helpu i flaenoriaethu ar draws y Cyngor.
Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn wynebu sefyllfa ariannol hynod ansefydlog oherwydd pwysau chwyddiant a’r galw am gyllid sydd ymhell y tu hwnt i’r lefel o gyllid a ragwelir. Fe all hyn wedyn effeithio ar argaeledd cyllid. Bydd y strategaeth arfaethedig yn caniatáu i’r Cyngor nodi adnoddau yn ôl yr angen ac o fewn y cyfyngiadau ariannol.
Yn ôl i frig y dudalen
Mae ein Cynllun Corfforaethol yn sôn am ystod eang o weithgareddau o wasanaethau amrywiol y Cyngor; serch hynny, nid yw’n manylu ar bopeth rydym ni’n ei wneud. Caiff nifer o rwymedigaethau statudol eraill a gweithgareddau pwysig, a allai gyfrannu neu beidio â chyfrannu at ein hamcanion, eu cynnal yn y Cyngor, a chânt eu nodi a’u monitro drwy gynlluniau busnes ein meysydd gwasanaeth unigol. Cynlluniau busnes y gwasanaeth yw asgwrn cefn trefniadau rheoli perfformiad y Cyngor. Cânt eu hadolygu’n flynyddol cyn pob blwyddyn ariannol, a’u harwyddo gan y Pennaeth Gwasanaeth ac Aelod(au) Cabinet Arweiniol, gyda chyfraniad gan yr Aelodau Cyswllt Craffu.
Caiff perfformiad yn erbyn y cynlluniau hyn eu monitro yn chwarterol gan wasanaethau. Mae’r Cyngor hefyd yn cynnal yr hyn mae’n alw yn ‘Heriau Perfformiad Gwasanaeth’ unwaith y flwyddyn. Mae hyn yn golygu y bydd uwch reolwyr, cynghorwyr, a'n rheoleiddwyr (Archwilio Cymru, Estyn, Arolygiaeth Gofal Cymru), yn cynnal ymchwiliad manwl i gyflawniadau a phwysau y mae ein gwasanaethau'n eu hwynebu.
Ar ôl cychwyn y Cynllun hwn, ein bwriad yw y bydd gwybodaeth am berfformiad ein gwasanaethau yn erbyn ein cynlluniau gwasanaeth yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan. I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau yma a’n Fframwaith Rheoli Perfformiad ehangach, ewch i’n tudalen perfformiad.
Yn ôl i frig y dudalen
I gael rhagor o wybodaeth, neu i adael i ni wybod eich barn am unrhyw beth yn yr adroddiad hwn, gallwch gysylltu â ni:
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg / We welcome telephone calls in Welsh.
Drwy'r post:
Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad,
Cyngor Sir Ddinbych,
Blwch Post 62,
Rhuthun,
LL15 9AZ
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw oedi wrth ymateb i ohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf:
Yn ôl i frig y dudalen