Sir Ddinbych ffyniannus

Yr hyn rydym ni eisiau

Cefnogi'r adferiad yn dilyn y pandemig, gan gynnwys manteisio ar gyfleoedd i alluogi trigolion i gael mynediad at gyflogaeth ac incwm da. Rydym yn awyddus i ddefnyddio twf economaidd fel cymhelliant ar gyfer lleihau anghydraddoldeb a thlodi.

Ein nod:

  1. Cydweithio gyda chymunedau a phartneriaid i ddarparu prosiectau a mentrau a fydd yn ysgogi twf economaidd, gan gynnwys:
    • Gweithio gydag Uchelgais Gogledd Cymru ar brosiectau Bargen Dwf Gogledd Cymru
    • Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru
    • Cronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU
    • Marchnad y Frenhines yn y Rhyl, a fydd yn darparu cyflogaeth a neuadd aml-ddefnydd gan gynnig casgliad o fwytai artisan, a gofod ar gyfer manwerthu a digwyddiadau
    • Hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych, a fydd yn darparu swyddi adeiladu a chyfleoedd prentisiaeth yn ystod y cyfnod adeiladu, a chartrefi a chyfleusterau cymunedol yn yr hirdymor
  2. Datblygu strategaeth economaidd a fydd yn:
    • Datblygu economi gwyrdd Sir Ddinbych
    • Cefnogi busnesau gwledig
    • Adfywio canol trefi
    • Gwella ein cynnig twristiaeth
  3. Darparu cyngor a chymorth a fydd yn:
    • Galluogi twf busnes a datblygiad economaidd cryf
    • Cefnogi twf yr economi gymdeithasol leol, yn cynnwys busnesau cymunedol, cydweithredol a mentrau cymdeithasol
    • Sicrhau buddion i’r gymuned leol drwy brosesau caffael a phartneriaethau cymdeithasol